Ymgyrch 拢200,000 i achub pwll nofio Arberth, Sir Benfro

Disgrifiad o'r llun, Mae ymgyrchwyr yn gobeithio gallu cadw'r pwll yn agored fel menter gymunedol

Mae trigolion Arberth yn ceisio codi 拢200,000 erbyn diwedd mis Mehefin i achub pwll nofio'r dref.

Fe wnaeth Cyngor Sir Penfro benderfynu dod 芒'u cefnogaeth ariannol i'r pwll i ben oherwydd toriadau ariannol.

Nawr mae 'na ymdrechion ar y gweill i godi digon o arian i gynnal y safle fel menter gymunedol.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i osod boeler biomas newydd ac i wneud y pwll yn fwy cynaliadwy.

Fe wnaeth cabinet Penfro gynnal pleidlais ym mis Rhagfyr i gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol y pwll - a hynny gyda'r bwriad i gau'r safle ar 1 Ebrill.

Mae'r sir yn ceisio gwneud arbedion o 拢20 miliwn drwy dorri'n 么l ar wahanol wasanaethau.

Yn ogystal 芒 gosod y boeler newydd, bwriad Cyfeillion Pwll Arberth yw gosod paneli solar er mwyn torri ar y costau o gynnal y pwll.

'Realistig'

Cafodd y pwll ei gadw yn agored tra bod pobl leol yn ceisio llunio pecyn i achub y safle.

Mae'r cyngor sir wedi derbyn cynllun busnes gan Gyfeillion Pwll Arberth - ond nawr mae'n rhaid i'r ymgyrchwyr godi'r arian angenrheidiol.

Dywedodd Sue Rees, Cadeirydd y Cyfeillion: "Mae'r cynllun yn un realistig. Mae'n rhaid i ni brofi i'r cyngor sir ein bod yn gallu codi'r arian.

"Ar hyn o bryd ry'n ni'n gwneud yn eitha' da, ond mae angen i unrhyw un sydd 芒 diddordeb gysylltu 芒 ni a phrynu cyfranddaliadau. "

Cafodd y pwll 20 metr ei agor yn 1973.

Dywedodd y cynghorydd Elwyn Morse, aelod o gabinet y sir sydd 芒 chyfrifoldeb am hamdden, fod y cyngor yn awyddus i sicrhau cynllun fydd yn achub y pwll.

"Fe wnaethon ni roi estyniad o dri mis i'r gr诺p... amser ychwanegol er mwyn iddyn nhw ddod o hyd i'r arian."