'Dydd y Farn' i d欧 crwn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mi fydd perchnogion t欧 crwn gafodd ei adeiladu yn Sir Benfro heb ganiat芒d cynllunio yn darganfod eu ffawd yn ddiweddarach.
Fe adeiladodd Megan Williams a'i phartner Charlie Hague y t欧 maen nhw yn ei alw'n Pwll Broga yng ngardd tad Mr Hague yng Nglandwr ger Crymych.
Llynedd fe gollon nhw ap锚l yn erbyn penderfyniad y cyngor sir i ddymchwel y t欧 gan fod yr arolygydd wedi penderfynu ei fod yn amharu ar yr olygfa.
Ond roedd un cyfle arall iddyn nhw achub y t欧 lle maen nhw'n byw gyda'u mab ifanc, sef drwy gyflwyno cais cynllunio 么l-weithredol.
Mae pwyllgor cynllunio y cyngor yn trafod y cais ddydd Mawrth.
Lleol a chynaliadwy
Mae 大象传媒 Cymru'n deall bod swyddogion y cyngor wedi argymell bod y cais yn cael ei wrthod am fod yr adeilad yn ddatblygiad preswyl heb gyfiawnhad.
Er bod y y t欧 yn cyd-fynd gyda'r fenter sy'n ceisio hyrwyddo byw mewn ffyrdd cynaliadwy, dyw'r swyddogion ddim yn credu bod modd ei drin fel eithriad i'r rheolau.
Dim ond deunyddiau lleol wnaeth Mr Hague, sy'n gerflunydd, eu defnyddio i adeiladu'r t欧 ac mae'r waliau wedi eu gwneud o wellt a'r to o wair.
Mae'r t欧 y drws nesa i'r pentref gwyrdd Lammas lle mae nifer o gartrefi bychan wedi eu dylunio er mwyn bod yn hunangynhaliol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2013