Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn dod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig wedi dod i ben.
Mae'r corff yn dweud bod hyn wedi digwydd am fod yr arian gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben.
Roedd gan y corff hyrwyddo gytundeb tair blynedd efo'r Llywodraeth.
Yn 么l y Sefydliad, mi wnaeth y Llywodraeth gynnig rhoi pres am chwe mis arall fel ei bod yn gallu ffeindio incwm o rywle arall.
Ond mi benderfynodd y bwrdd beidio gwneud hyn am nad oedden nhw'n meddwl fod y cynnig yn un "hyfyw".
Mae tri o bobl yn gweithio i'r corff.
'Pryderu am y bwlch'
Mewn datganiad maen nhw'n dweud ei bod nhw wedi cyflawni llawer efo refeniw o 拢160,000 y flwyddyn.
Maen nhw'n son am 诺yl WOMEX, archwilio marchnadoedd newydd ar draws y byd a chynhyrchu digwyddiadau hyfforddi fel enghreifftiau.
"Mae'n peri gofid mawr i ni gau ein swyddfa a dod 芒'n gweithrediadau i ben ac rydym yn hynod o bryderus am y bwlch y mae hyn yn ei achosi yn y gwasanaeth i ddiwydiant cerddoriaeth Cymru.
"Fodd bynnag, ar 么l ystyried yn ofalus nifer o opsiynau, ac o wybod nad oes ymrwymiad pellach gan Lywodraeth Cymru i gyllido ein gwasanaeth i'r diwydiant, dyma'r unig opsiwn cyfrifol sydd ar gael i ni ar hyn o bryd."
Mae rhai sydd yn gweithio o fewn y diwydiant wedi eu synnu gyda'r newyddion.
Dywedodd y gantores a'r gyflwynwraig ar Radio Wales Amy Wadge:
"Os na fydden ni wedi cael adnodd fel Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig mi fydden ni wedi bod yn berson arall yn nofio yn erbyn y llif a heb unrhyw syniad sut i ddechrau torri trwodd."
Mae'r newyddiadurwr gyda Media Wales, David Owens, yn dweud bod y cyhoeddiad yn un trist iawn.
"Mi ges i sioc fawr pan ddes i i wybod yn enwedig yn dilyn y ffaith fod y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig wedi dod a WOMEX i Gymru. Mi gafodd yr w欧l effaith ar economi Caerdydd a'r ardaloedd cyfagos.
"O ran etifeddiaeth, mae'n fudiad oedd yn bendant yn mynd yn y cyfeiriad cywir a nawr rydyn ni wedi ein gadael gyda dim byd."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod wedi cynnig arian i'r corff tan fis Rhagfyr 2014 fel ei bod yn medru parhau gyda'i gwaith a ffeindio ffynonellau eraill o nawdd.
"Mae'r cynnig yma wedi ei wrthod. Rydyn ni yn edrych ar opsiynau i ddatblygu gwasanaeth cynghori ar gyfer rhai sydd yn gweithio yn y sector greadigol, gan gynnwys cerddoriaeth."