Pyst rygbi... a rhwyd!

Mae yna gysylltiadau agos wedi bod rhwng Cymru a'r Iwerddon dros y canrifoedd a rwan mae un o gampau traddodiadol yr Ynys Werdd yn ffynnu yng Nghaerdydd.

Shane Galvin, yn wreiddiol o Swydd Corc, ydi ysgrifennydd clwb St. Colmcilles, yr unig dim p锚l-droed Gwyddelig swyddogol yn y brifddinas.

Eglurodd Shane wrth 大象传媒 Cymru Fyw yn fras beth ydi'r rheolau.

Dwylo a thraed

"Mae p锚l-droed Gwyddelig yn cael ei chwarae rhwng dau d卯m o 15 chwaraewr yr un. Mae'r pyst ar ffurf llythyren H fel rygbi, ond mae na rwyd ar y rhan isaf. Mae'n bosib sgorio un pwynt trwy gicio'r b锚l rhwng y pyst a thriphwynt trwy daro'r b锚l i'r rhwyd.

"Mae'n bosib defnyddio'r dwylo a'r traed i symud y b锚l ymlaen. Fel rheol, mae dau hanner o 30 munud yr un; ond ar y lefel uchaf mae dau hanner o 35 munud yr un. Mae'r b锚l yn debyg i b锚l ar gyfer p锚l-droed, ond yn drymach."

Disgrifiad o'r llun, Aelodau o garfan St. Colmcilles, Caerdydd

Chwilio am waith

Dydi campau Gwyddelig ddim yn rhywbeth newydd yng Nghymru yn ol Shane Galvin:

"Mae Gemau Gwyddelig wedi eu chwarae yng Nghymru ers i'r Gwyddelod ddechrau setlo yma. Gan fod y porthladdoedd yn agos i'w gilydd a'r llwybr masnach yn adnabyddus teithiodd llawer o Wyddelod i Dde Cymru i chwilio am waith yn y dociau a phyllau glo'r cymoedd.

"Er bod Gwyddelod wedi teithio dramor i chwilio am waith ers blynyddoedd maith, mae'r sefyllfa economaidd dros y ddegawd ddiwethaf yn golygu bod ton newydd o Wyddelod wedi gadael eu gwlad i chwilio am waith.

"Mae llawer o Wyddelod wedi setlo i weithio ac astudio yng Nghymru, ond yn hytrach nac bod yn labrwyr fel yn y gorffennol, mae'r gweithiwyr bellach yn gyfreithwyr, peirianwyr a darlithwyr."

Cynghrair gystadleuol

"Mae St. Colmcilles yn chwarae yng nghynghrair Cymru a'r De Orllewin, sydd yn cynnwys clybiau o Gaerdydd (St. Colmcilles), Caerloyw (St. Patricks), Plymouth (Parnells), Bournemouth (St. Judes) a dau d卯m o Fryste (St. Nicholas a'r Western Gaels).

"Mae ein t卯m cyntaf presennol wedi cael dipyn o lwyddiant yn ddiweddar, gan ennill saith Pencampwriaeth Rhanbarthol ers 2000 a chyrraedd rownd derfynol Prydain yn 2012.

"Er hyn, rydyn ni yn mynd trwy gyfnod o ail-adeiladu ar hyn o bryd, gyda llawer o chwaraewyr newydd yn ymuno 芒'r t卯m. Cafodd t卯m y merched, sydd bennaf yn chwarae yng 'Nghynghrair y Canolbarth', ei sefydlu rai blynyddoedd yn 么l, ac mae'n parhau i fynd o nerth i nerth.

"Mae p锚l-droed Gwyddelig hefyd yn cael ei chwarae mewn nifer o brifysgolion y De, sydd yn ffordd effeithiol o fwydo chwaraewyr i glwb St. Colmcilles."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r garfan yn ymarfer bob nos Fawrth a nos Iau yn ardal Treganna, Caerdydd

Caerdydd v Abertawe

Mae Shane Galvin yn dweud bod yna ddyfodol iach i'r clwb:

"Mae ffocws arbennig yn cael ei roi ar ddatblygu'r chwaraewyr ifanc, gyda'r GAA (Y Gymdeithas Athletau Gwyddelig) yn penodi hyfforddwr llawn amser yn yr ardal. Mae'r hyfforddwr yn weithgar mewn nifer o ysgolion cynradd yn ardal Caerdydd.

"Mae'r ymdrechion yma wedi dwyn ffrwyth yn barod, gyda 12 o'r garfan bresennol wedi dod drwy'r system hyfforddi. Mae'r hyfforddwr hefyd wedi bod yn weithgar yn ardal Abertawe, lle mae clwb newydd wedi ei sefydlu yn ddiweddar, a fydd yn golygu y bydd yna derbies yn y De am flynyddoedd i ddod.

"Hefyd, mae aelodau ifanc o'r garfan wedi cynrychioli 'Cymru a'r De Orllewin' yn Iwerddon a pherfformio yn arbennig o dda."

Disgrifiad o'r llun, Mae gobeithion y bydd gemau rhwng Caerdydd ac Abertawe yn denu diddordeb

Am fwy o wybodaeth yngl欧n 芒 St. Colmcilles GAA, Caerdydd, ac am B锚l-droed Gwyddelig, neu ."