Y pizza drytaf erioed?
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth bachgen o Gasnewydd ddarganfod ei hun mewn dyled anferth wedi i siop fwyd parod godi bron i 拢200,000 am bizza mewn camgymeriad.
拢17.99 oedd y pris roedd Nathaniel Bolwell, 19 wedi disgwyl ei dalu i'w gangen Domino's leol ond fe aeth rhywbeth o'i le.
"Doeddwn i methu 芒 chredu fy llygaid," meddai.
"Sut wnaethon nhw [y banc] adael i Domino's gymryd yr holl arian yna?
"Ni fyddai'r pryd fwyaf crand yn y bwyty crandiaf yn y byd yn costio ddim byd tebyg i hyn, hyd yn oed petawn i'n mynd a fy holl ffrindiau a fy nheulu mas."
Cafodd yr arian ei dalu'n 么l ar 么l i Nathaniel a'i dad ffonio'r banc i gwyno, ac fe dalodd Lloyd's 拢100 ychwanegol am y drafferth.
Dywedodd y banc eu bod nhw "wir yn edifar am y lefel o ofid ac anghyfleustra roedd y digwyddiad wedi ei achosi".
'Aur a deiamwntiau'
Mae'n debyg fod y camgymeriad wedi digwydd wedi i'r rhif 3232 gael ei ychwanegu at bris y pizza yn hytrach nag ar gyfer awdurdodi'r taliad.
Felly fe aeth 拢17.99 yn 拢179,932.32.
Yn 么l tad Nathaniel, Karl fe gaiff ei fab "goginio gartref o hyn ymlaen".
Ychwanegodd: "Mae pobl yn jocian gan ddweud 'yn hytrach na pizza caws a thomato mae'n rhaid ei fod wedi ei wneud o aur a deiamwntiau'."