大象传媒

Bwrdd iechyd wedi torri'r Ddeddf Gwarchod Data

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dorri'r Ddeddf Gwarchod Data wedi iddyn nhw anfon gwybodaeth bersonol yngl欧n 芒 chleifion i'r cyfeiriad anghywir, yn 么l Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cafodd y wybodaeth gyfrinachol ei ddatgelu pan anfonwyd wyth llythyr yngl欧n ag iechyd cleifion i un o'r cleifion hynny ym mis Gorffennaf 2013, yn hytrach nag i'r feddygfa.

Roedd chwech o'r llythyrau yn cynnwys gwybodaeth sensitif yngl欧n 芒 thriniaeth feddygol y cleifion.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro ac wedi ymrwymo i wella hyfforddiant staff.

Diffyg hyfforddiant

Yn dilyn ymchwiliad, mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi nad oedd y gweithiwr oedd yn gyfrifol am y camgymeriad wedi derbyn unrhyw fath o hyfforddiant gwarchod data.

Ers y digwyddiad, mae'r bwrdd iechyd wedi cyflwyno hyfforddiant gwarchod data gorfodol ar gyfer pob aelod o staff. Ond er i'r hyfforddiant gael ei gyflwyno yn Ebrill 2013, erbyn Chwefror 2014 dim ond 6.5% o'r staff oedd wedi cwblhau'r cwrs.

Dywedodd y bwrdd iechyd wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth nad oeddyn nhw'n rhagweld gallu darparu'r hyfforddiant ar gyfer pob aelod o staff tan Ebrill 2015.

Ymateb y Comisiynydd

Dywedodd Anne Jones, Comisiynydd Cynorthwyol Cymru: "Rydym yn cydnabod bod camgymeriadau yn gallu digwydd, ond mae'n rhaid i fudiadau sicrhau bod eu gweithwyr sy'n ymdrin 芒 gwybodaeth bersonol sensitif yn derbyn y hyfforddiant angenrheidiol er mwyn gallu gwneud eu gwaith.

"Methodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 芒 gwneud hyn."

Aeth ymlaen i ddweud: "Erbyn hyn mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i wella'r hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu i'w gweithwyr.

"Bydd hyn yn cynnwys rhoi'r flaenoriaeth i'r staff hynny sy'n ymdrin 芒 gwybodaeth sensitif fel rhan annatod o'u swydd, neu sy'n gweithio fel rhan o drefn lywodraethu gwybodaeth y sefydliad, er mwyn sicrhau eu bod

"Bydd y gwelliannau yma'n lleihau'r perygl o broblemau gyda data yn y dyfodol ac yn gymorth i gadw gwybodaeth cleifion yn ddiogel."

Ymddiheuro

Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd iechyd bod diogelwch data eu cleifion yn hollbwysig.

"Cyn gynted a daeth y camgymeriad i'r amlwg, fe wnaethon ni ddechrau ymchwiliad yn syth a rhoi gwybod i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a llywodraeth Cymru," meddai llefarydd.

"Fe wnaethon ni hefyd gysylltu 芒 phob claf i ymddiheuro.

"Rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i wella dealltwriaeth staff o'r Ddeddf Gwarchod Data."