大象传媒

Trenau Arriva yn ymddiheuro i'r Prif Weinidog

  • Cyhoeddwyd

Mae Trenau Arriva Cymru wedi cynnig ymddiheuriad i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ar 么l iddo gysylltu 芒'r cwmni yn cwyno am gyhoeddiadau uniaith Saesneg mewn gorsaf yng Nghaerdydd.

"Rydym yn ymddiheuro yn ddiffuant i'r Prif Weinidog am yr ymateb amhriodol i'w ymholiad ar Twitter ynglyn 芒 chyhoeddiadau Saesneg yn unig yng Ngorsaf Stryd y Frenhines Caerdydd."

Nos Sadwrn fe wnaeth Mr Jones gwyno am ddiffyg cyhoeddiadau dwyieithog mewn gorsaf drenau yng Nghaerdydd. Mynegodd Mr Jones ei siom hefyd am yr ymateb i'w gwyn, gan ddweud bod Trenau Arriva Cymru yn "amhroffesiynol."

Fe ddaeth y mater i'r golwg ar 么l i Mr Jones ddweud ar ei gyfrif trydar fel Aelod Cynulliad; "Cyhoeddiadau Saesneg yn unig yng ngorsaf Stryd y Frenhines. Ydy'r ffin wedi symud?"

Mewn ymateb ar y wefan fe ddaeth trydar gan lefarydd Trenau Arriva Cymru yn dweud "Nid yw'r ffin wedi symud hyd y gwn i, ond ymddiheuriadau os yw'r cyhoeddiadau Saesneg wedi gofidio chi".

Mae'n ymddangos fod yr ymateb hwn wedi synnu a chythruddo nifer o bobl ar wefan twitter gan gynnwys Mr Jones. Mewn ymateb dywedodd Carwyn Jones "Byddai ymddiheuriad syml wedi gwneud y tro yn lle ymateb haerllug. Amhroffesiynol".

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhan o'r sgwrs rhwng Carwyn Jones a Trenau Arriva Cymru ar Twitter

Yn gynharach yn y dydd bu Mr Jones yn agoriad swyddogol ffair Tafwyl, lle bu'n son am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn y brifddinas.

Yn ogystal ag ymddiheuro fe wnaeth Trenau Arriva gynnig eglurhad am eu polisi iaith yn yr orsaf. Mewn datganiad dywedodd y cwmni:

"Oherwydd prysurdeb yr orsaf, o'r ffaith fod tri phlatfform yno, mae cyhoeddiadau yn cael eu gwneud yn Saesneg yn unig oherwydd byddai nifer fawr o gyhoeddiadau ar yr un pryd yn achosi dryswch. Mae cyhoeddiadau cyffredinol yr orsaf yn ddwyieithog.

"Fodd bynnag, bydd prosiect Network Rail, sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gwblhau lle bydd platfform ychwanegol ar gyfer Bae Caerdydd yn agored, ac fe ddylai hyn wella llif y teithwyr trwy'r orsaf.

"Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i ni gyflwyno cyhoeddiadau dwyieithog yng ngorsaf Stryd y Frenhines. Mae gan bob gorsaf arall yng Nghymru, sydd wedi eu staffio, a sydd 芒 chyfleusterau cyhoeddiadau awtomatig, gyhoeddiadau dwyieithog."