Llywodraeth i wahardd ysmygu mewn ceir gyda phlant

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Bydd ymgynghoriad ar y cynnig yn dechrau yn fuan.

Bydd ysmygu mewn ceir sy'n cario plant yn cael ei wahardd yng Nghymru, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi.

Dywedodd y llywodraeth y byddai'r gwaharddiad yn amddiffyn plant rhag y peryglon sy'n gysylltiedig ag anadlu mwg ail-law.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, ei fod yn "glir bod y cyhoedd yn cefnogi peidio 芒 chaniat谩u smygu mewn ceir sy'n cario plant".

Ymgynghoriad

Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd y gwaharddiad yn amddiffyn plant rhag "y peryglon y mae modd eu hosgoi sy'n gysylltiedig 芒 smygu goddefol", sy'n gallu arwain at glefydau cronig.

Maen nhw'n honni bod gwaith ymchwil yn dangos lleihad yn nifer y plant sy'n cael eu heffeithio gan ysmygu mewn ceir yn y dair mlynedd diwethaf.

Ond mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford yn dweud bod gwaharddiad yn angenrheidiol erbyn hyn.

Bydd ymgynghoriad ar y cynnig yn dechrau yn fuan.

Dywedodd yr Athro Drakeford: "Mae canfyddiadau gwaith ymchwil yn dangos yn glir bod y cyhoedd yn cefnogi peidio 芒 chaniat谩u smygu mewn ceir sy'n cario plant, a bod y gefnogaeth honno - a'r ymwybyddiaeth o beryglon mwg ail-law - wedi cynyddu dros y tair blynedd ddiwethaf.

"Er bod canfyddiadau gwaith ymchwil yn dangos bod cynnydd wedi'i gyflawni wrth leihau nifer yr achosion o blant sy'n agored i fwg ail-law mewn ceir, rydyn ni o'r farn erbyn hyn mai cyflwyno rheoliadau i wahardd smygu mewn ceir preifat sy'n cario plant dan 18 oed yw'r mesur olaf sydd ei angen i roi terfyn ar yr anghydraddoldebau parhaus o ran y plant sy'n cael eu heffeithio."