Dechrau'n Deg i draean fwy o blant
- Cyhoeddwyd
Mae dros 31,000 o blant yng Nghymru wedi elwa o wasanaethau Dechrau'n Deg dros y flwyddyn ddiwethaf, yn 么l adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos cynnydd o draean ers y llynedd yn y nifer o blant sydd wedi elwa o wasanaethau Dechrau'n Deg, gan gynyddu o 23,579 i 31,322.
I nodi hyn mae'r Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, Vaughan Gething, yn ymweld 芒 Phen-Bont ar Ogwr i agor dwy ganolfan newydd Dechrau'n Deg.
Y gwasanaethau sydd ar gael
Mae canolfannau Dechrau'n Deg yn cynnig gwasanaeth gofal plant am ddim i rieni plant 2-3 oed sy'n gymwys ar gyfer y cynllun, cyngor a chefnogaeth magu plant, gwasanaeth ymwelydd iechyd a chymorth gyda datblygiad ieithyddol blynyddoedd cynnar.
Mae'r canolfannau'n rhoi cymorth i deuluoedd i edrych ar 么l iechyd a lles eu plant.
Newid bywydau
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: "Mae Dechrau'n Deg yn gallu newid bywydau ac yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
"Ein nod yw dyblu'r nifer o blant a theuluoedd sy'n elwa o'r cynllun Dechrau'n Deg, o 18,000 i 36,000 erbyn 2016".
Bydd y Dirprwy Weinidog yn agor dwy ganolfan newydd ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, un yn Sarn a'r llall ym Melin Ifan Ddu.
Bydd y ganolfan yn Sarn yn darparu gwasanaethau ar gyfer 60 o blant ac wedi derbyn 拢652,276 gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y ganolfan ym Melin Ifan Ddu yn darparu gwasanaethau ar gyfer 16 o blant ac wedi derbyn 拢537,591 gan Lywodraeth Cymru.