Ceri Wyn Jones yn cofio Gerallt Lloyd Owen
- Cyhoeddwyd
Mewn sgwrs ar raglen Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru, bu'r Prifardd Ceri Wyn Jones yn cofio am Gerallt Lloyd Owen, wedi ei farwolaeth brynhawn Mawrth.
Wedi i Gerallt Lloyd Owen roi'r gorau i fod yn Feuryn ar raglen Talwrn y Beirdd ar 大象传媒 Radio Cymru, Ceri Wyn Jones oedd ei olynydd.
Mae'n dweud y bydd yn cofio Gerallt fel bardd, yn bennaf, gan ddiolch iddo am ei gefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.
"Mae'n ergyd ddychrynllyd o drom, does dim dwywaith am hynny.
"Ry' ni 'di colli rhywun 'y ni 'di hen ystyried yn un o'n cewri ni, un o'n bobol amlyca' ni ond hefyd un o'n pobl anwyla' ni.
"Mae e'n perthyn i'r criw dethol hwnnw o bobol ro'n ni'n eu nabod nhw wrth eu henw cynta' - chi'n meddwl am bobl fel Waldo, Ryan, Dic a ni'n gosod Gerallt yn yr un cwmni - a gallwn ni ddim rhoi teyrnged fwy iddo na hynny dwi ddim yn credu.
'Talisman llenyddol'
"Fe drodd e'n rhyw fath o dalisman llenyddol i fudiad yr iaith ac i'r ymgyrchu cenedlaetholgar dros yr 50 mlynedd a mwy d'wetha 'ma.
"Ma' hyn wrth gwrs yn 'i osod e mewn cyd-destun arall - tu hwnt i 'mond y geirie', fel rhywun oedd yn ymgorffori'r ymdrechion protesgar hyn drwy 'i eirie.
"Ond diawch, o'dd e'n fwy na bardd o'nd o'dd e?
"O'dd e hefyd yn Feuryn y Talwrn, ac o bosib ffor' 'na fydd llawer yn ei gofio fe - yn ddarlledwr poblogaidd, wrth reddf yn gallu meithrin a beirniadu a chynnal nosweithiau adloniannol... gan gofio bod angen plesio'r beirdd a'r gynulleidfa.
"Fuodd Gerallt o gymorth o'r cychwyn - yn yr ystyr pan o'n i'n dechre barddoni a thalyrna, fuodd e'n gefn i fi yn yr ystyr bod e mor ofalus ohona'i, fel odd e gyda phob bardd newydd, o'dd e'n gw'bod bod ishe cynhalieth.
"Ma'n rhyfedd, o'n i'n gwbod mod i'n gwella fel bardd pan odd e'n dechre mynd yn fwy hallt 'i feirniadaeth dros y blynyddoedd.
'Golygu gymaint'
"Un o'r pethe dwi'n 'i drysori fwy na unrhyw beth - mae e gen i yn y dr芒r lan lofft - ma' gen i englynion weithiodd Gerallt i mi pan enilles i'r Gadair yn 1997 yn 'i lawysgrifen a phwt o lythyr.
"Pan ddes i'n ddigon ffodus i'w olynu fel Meuryn - fe odd y cynta' un ar y ff么n i'm llongyfarch i ag o'dd hwnna'n golygu gymaint.
"O'dd cal s锚l 'i fendith e, fel petae, yn hwb mawr oherwydd wrth reswm roedd 'na rywbeth arswydus mewn camu i'r esgidiau hynny.
"Ond diawch, o'n i'n teimlo hi'n fraint - os r'wbeth dwi'n teimlo hi'n fwy fyth o fraint ar y funed.
"Fe wnaeth e bwysleisio ei bod hi'n bwysig 'mod i'n torri 'nghwys 'yn hunan... Ac i barchu deallusrwydd y gynulleidfa. A ma' hynny'n holl-bwysig.
'Yr allwedd'
"Ie, gwaith y Meuryn yw dehongli ac esbonio, ond mae'n bwysig cofio bod y gynulleidfa'n un graff ofnadwy, ac yn deall llawer o'r ergydion cyn i'r Meuryn 'u gweld nhw, yn sicr cyn i mi eu hesbonio nhw.
"Ma' barddoniaeth ar hyd yr oesoedd wedi bod yn ganolbwynt cymdeithasol i 'r Cymry Cymraeg, 'sdim dwywaith am hynny.
"Ma'r ffaith fod 'na raglen radio - sydd i bob pwrpas yn rhaglen o ddarllen cerddi a beirniadaeth llenyddol, yn 'i hanfod, na beth yw'r talwrn - wedi para cyhyd, a does dim dwywaith gen i mai Gerallt yw'r allwedd i'r llwyddiant hwnnw, a fydde neb yn dadle' hynny.
"Dw i'n si诺r fel unrhyw un sy'n ymdrechu i daro geirie ar bapur a rhoi rhyw drefn arnyn nhw - ac yn ei achos e'n arbennig, yn rhoi ei holl enaid i'r cerddi hynny - wel dwi'n si诺r mai fel bardd y bydde fe'n dymuno cal 'i gofio.
"Y peth gwych i ni fel Cymry yw y gallwn ni gofio fe fel sawl peth arall hefyd.
"Yn bersonol hefyd, fel bardd y bydda i'n ei gofio fe."