Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Blwyddyn gynta' brysur i'r Archdderwydd Christine James
Ers iddi gael ei hurddo'n Archdderwydd yng ng诺yl gyhoeddi Eisteddfod Sir G芒r fis Mehefin y llynedd, mae Christine James wedi cael blwyddyn brysur dros ben. A dweud y gwir, mae hi wedi cael blwyddyn brysurach nag yr oedd hi'n disgwyl.
Mae'r achlysuron cyhoeddus, y gwaith pwyllgora a'r gwahoddiadau lu gan grwpiau a mudiadau megis Merched y Wawr - un yr wythnos ar gyfartaledd hyd yn hyn eleni - ar ben ei gwaith fel Athro yn y Gymraeg yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, wedi ei chadw'n brysur ac "allan o drwbl!"
Wrth sgwrsio 芒 Chymru Fyw - ychydig wedi i'w chyfrol 'rhwng y llinellau' ddod i'r brig yn y categori barddoniaeth yn seremoni Llyfr y Flwyddyn - dywedodd mai uchafbwynt ei chyfnod fel Archdderwydd hyd yn hyn oedd y Coroni yn Sir Ddinbych, oedd yn "wefreiddiol".
"Dyma'r tro cyntaf i mi gael y fraint o wobrwyo rhywun," meddai. "Roeddwn i'n falch mai Ifor ap Glyn oedd yr enillydd. Rydw i'n adnabod Ifor, ac roedd hi'n teimlo fel coroni ffrind."
Wrth fynd o'r uchafbwynt hwnnw, i'r diffyg teilyngdod yn Seremoni'r Cadeirio ar y dydd Gwener, dywedodd yr Athro James: "Roedd hi'n siom i bawb ac roeddwn i'n siomedig dros yr ymgeiswyr a'r gynulleidfa. Roedd hi'n siom i minnau hefyd, mae pob Archdderwydd yn gobeithio am y gamp lawn."
Mae Christine James yn awyddus i bwysleisio eto ei nod hirdymor, ei hawydd i ddilyn camau T.James Jones (Jim Parc Nest), a gwneud yr Orsedd yn fudiad mwy democrataidd, sy'n cynrychioli'r genedl gyfan.
Fydd hi "ddim yn hawdd chwalu'r syniad o'r Orsedd fel elit", esboniodd, ond byddai modd "gwneud hyn drwy dderbyn aelodau o gefndiroedd gwahanol". Ac mae cynnydd i'r cyfeiriad hwn eisoes ar droed, meddai, gydag "amrywiaeth o bobl yn dod mewn i'r Orsedd" eto eleni.
Ychwanegodd nad oes rhaid i gyfraniadau ymgeiswyr fod yn "uchel-ael" ac mae'r Orsedd yn ymwybodol o bwysigrwydd rhoi sylw i "gyfraniadau ar lawr gwlad".
Ond mae hi hefyd yn pwysleisio bod yr Orsedd yn gorff democrataidd, a phob aelod 芒'r hawl i enwebu aelodau newydd. Felly rhaid i unrhyw newid "ddod o blith yr aelodau".
Pwysleisiodd hefyd mai aelod o d卯m ydi hi. Heb ymdrech a chefnogaeth y swyddogion, meddai, byddai gwaith yr Archdderwydd yn anodd iawn, os nad amhosibl.
O ystyried bod 'na weledigaeth hirdymor, sut fath o Archdderwydd ddaw ar ei h么l hi tybed?
"Beth liciwn i gael o ran yr olyniaeth, o edrych ar y darlun mawr, ydi y byddwn ni dros y blynyddoedd yn ethol archdderwyddon o gefndiroedd gwahanol," meddai.
"Yn amlwg mae hi'n amod bod yr ymgeiswyr wedi ennill un o'r prif wobrau llenyddol - ond wedi hynny mae yno bob math o opsiynau o ran cefndir daearyddol, cefndir ieithyddol ac yn y blaen.
"Mae Cymru'n wlad amrywiol, felly gadewch i ni ddangos hynny - ond heb gyfaddawdu ar fater y Gymraeg, wrth gwrs."
Beth am y Brifwyl ei hun? Oes angen gwneud mwy i sicrhau bod Eisteddfodwyr yn cynrychioli Cymru gyfan?
Yn 么l yr Athro James : "Mae gan yr Eisteddfod lot o waith i'w wneud o ran denu Cymry Di-Gymraeg a Chymry Cymraeg.
"Yn amlwg mae pobl yn ymddiddori mewn pethau gwahanol, ond mae llawer o Gymry'n teimlo nad ydi'r Eisteddfod yn cynnig unrhyw beth iddyn nhw.
"Felly mae angen argyhoeddi pobl bod yr 诺yl yn berthnasol iddyn nhw. Mae angen codi ymwybyddiaeth bod yr Eisteddfod wedi newid, bod yna rywbeth at ddant pawb.
"Un peth sy'n fy mhoeni ychydig bach ydi bod llawer o bobl ddim yn sylweddoli bod tocyn i'r Maes hefyd yn rhoi mynediad iddyn nhw i'r Pafiliwn.
"Mae angen codi ymwybyddiaeth ac ailadrodd y neges honno flwyddyn ar 么l blwyddyn, yn enwedig i ymwelwyr newydd sydd ddim o reidrwydd yn deall y drefn."
Wrth gyfeirio at bryderon am brinder aelodau'r Orsedd yn y seremon茂au, dywedodd yr Athro James: "Mae pobl yn hoffi cael y fraint o gael eu hurddo i'r Orsedd, ond gyda'r fraint honno daw cyfrifoldeb - y cyfrifoldeb o fynychu'r Eisteddfod a dod i seremon茂au'r Orsedd."
"Yn amlwg dydi pawb ddim yn gallu dod bob blwyddyn, ond byddai'n braf petai pobl yn dod o dro i dro, yn enwedig pan fydd yr Eisteddfod yn ymweld 芒'u hardal."
Ac mae hi'n ymddangos bod dymuniadau'r Archdderwydd yn cael eu gwireddu, gyda niferoedd uchel wedi cadarnhau y byddan nhw'n dod i Lanelli eleni a bron pob sedd ar y llwyfan wedi eu cadw ar gyfer y Cadeirio.
Am fwy o'r Brifwyl, ewch i'n gwefan Eisteddfod.