Ymgynghoriad M4: Ymddygiad llywodraeth yn 'warthus'

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei feirniadu am eu penderfyniad i wrthod cyhoeddi dogfen gyda chanlyniadau ymgynghoriad ar gynllun ffordd osgoi'r M4.

Cafodd y ddogfen ei gymeradwyo gan y cabinet yr wythnos ddiwethaf, dau ddiwrnod cyn i'r Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart gyhoeddi y byddai'r cynllun i adeiladu traffordd newydd i'r de o Gasnewydd yn mynd yn ei flaen.

Mae agendau a phapurau o gyfarfodydd y cabinet fel arfer yn cael eu cyhoeddi ar wefan y llywodraeth chwe wythnos ar 么l y cyfarfodydd.

Ond penderfynodd y llywodraeth na fyddai'r papur yn cael ei gyhoeddi y tro hwn.

'Eithriad'

Mae Edwina Hart eisoes wedi cael ei beirniadu am y ffordd yr aeth hi ati i wneud y penderfyniad i adeiladu'r ffordd.

Fe gyhoeddodd hi'r penderfyniad yn y Senedd dydd Mercher diwethaf, un diwrnod cyn diwedd y tymor, ac wythnos cyn i bwyllgor y cynulliad gyhoeddi adroddiad ar y mater.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Edwina Hart amddiffyn ei phenderfyniad i fwrw ymlaen gyda chynllun y ffordd osgoi

Mynnodd y gweinidog ei bod hi'n bwrw ymlaen gyda'r gwaith o lywodraethu, a bod ei phenderfyniad yn un cywir.

Fe ymddangosodd penderfyniad y llywodraeth i beidio 芒 chyhoeddi'r papur ar eu gwefan yn gynharach yr wythnos yma.

Roedd disgwyl i'r dogfennau gael eu cyhoeddi ddiwedd Awst, ond dywedodd y llywodraeth fod "cynnwys y papur wedi eu heithrio rhag cael ei ddatgelu, ac felly, ni fydd y papur yn cael ei gyhoeddi gyda gweddill cofnodion y cyfarfod".

'Cywilyddus'

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar drafnidiaeth, Eluned Parrott, fod y llywodraeth wedi ymddwyn mewn ffordd "gywilyddus".

"Mae'r ffaith eu bod nawr yn gwrthod cyhoeddi'r ymgynghoriad yma yn warthus," meddai.

"Unwaith eto mae llywodraeth Llafur Cymru yn osgoi tryloywder. Mae'n ymddangos nad oedd y broses ymgynghori yn ddim mwy na thwyll.

"Mae honiad y Gweinidog nad oedd rhesymau wedi eu rhoi yngl欧n 芒 pham nad oedd y 'llwybr du' yn gallu cael ei ddefnyddio yn mynd yn groes i dystiolaeth gafodd ei roi ger bron yr ymgynghoriad.

"Nid gwario biliwn o bunnau a buddsoddi holl bwerau benthyca llywodraeth Cymru mewn un ffordd yw gwaith llywodraeth gyfrifol."

Ychwanegodd fod "opsiynau rhatach a mwy effeithiol ar gael" ond dywedodd bod "llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod eu hystyried".

Dywedodd hefyd fod traffig yn M4 yn fater pwysig, ond y byddai ei phlaid hi yn datblygu ffordd yr A48, ac yn ceisio buddsoddi yn system Metro De Cymru.

Mae 大象传媒 Cymru wedi gofyn i'r llywodraeth am ymateb.