大象传媒

Cofeb i gofio artist o Gymru yn Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Ffion HagueFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ffion Hague bod ganddi ddiddordeb yn hanes Gwen John ers gweld ei gwaith yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd

Wedi i gyfres Mamwlad ar S4C ganfod bedd yr artist Gwen John yn Ffrainc, mae cofeb yn cael ei gosod yno.

Roedd Gwen John yn chwaer i'r artist Augustus John, ac yn gariad i'r cerflunydd Auguste Rodin.

Mae gwybodaeth helaeth ar gael am ei bywyd, ond roedd ei marwolaeth a'i man gorffwys olaf wedi bod yn ddirgelwch tan i raglen Mamwlad olrhain yr hanes.

Cafodd Cymru Fyw gyfle i sgwrsio 芒 chyflwynydd y gyfres, Ffion Hague, ar Faes y Brifwyl yn Sir G芒r.

Pam dewis olrhain hanes Gwen John ar gyfres Mamwlad?

"Fy niddordeb i yn Gwen oedd yn gyfrifol am hynny. Fe dyfes i fyny yng Nghaerdydd - o'n i'n mynd i'r amgueddfa'n aml iawn yn blentyn, ac wrth fy modd gyda gwaith Gwen, sy'n rhan o'r casgliad yno.

"O'n i'n gweld bod ei gwaith hi'n eang iawn.

"Mae'n cyfuno ei phrofiadau hi yn Ysgol Gelf Slade gyda'r holl ddylanwade' o Ewrop ddechrau'r 20fed ganrif - o'dd hi'n 'nabod Picasso, yn 'nabod Matisse, ac wrth gwrs yn feistres i Rodin - ac eto, mae'r holl balet yn Sir Benfro.

"I mi, o'dd y cyfuniad yna o Gymraes o'dd wedi mynd tu hwnt i Gymru, ac wedi cyfuno popeth i ddarn o waith o'dd yn fythgofiadwy.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Darlun o Gwen John gan McEvoy

'Da ni'n gwybod llawer am ei bywyd hi, ond roedd ei marwolaeth yn ddirgelwch. Sut deimlad oedd dod o hyd i fan gorffwys Gwen John?

"Yn gwmws - pam aeth hi i Dieppe pan oedd hi'n hen, s芒l a musgrell? Pam yno? Wedyn, marw'n sydyn ar drothwy'r Ail Ryfel Byd, a neb yn gw'bod pwy oedd hi.

"Fe gafodd hi ei chladdu mewn bedd tlotyn, ac wedyn doedd neb yn gallu dod o hyd iddi ar ddiwedd y rhyfel.

"Felly dyma ni'n mynd i Dieppe ar drywydd bedd Gwen.

"Roedd ei gor-nith, Sara John, wedi bod yn chwilio ac wedi rhoi ambell gliw i ni am hanes y teulu.

"Dyma ni, ar 么l amser maith o chwilio, yn canfod y cofnod i gadarnhau ei bod hi ym mynwent Janval yn Dieppe.

"O'dd y foment 'na'n emosiynol iawn. O'dd e'n teimlo fel ein bod ni wedi dod 芒'r stori i ben.

"Ond, wrth gwrs, does 'na ddim cofeb yno."

Tan nawr, wrth gwrs. Ydi trefnu i osod y gofeb yn teimlo fel penllanw ar y gwaith?

"Mae e'n profi i mi ei bod hi'n werth mynd ar 么l straeon y merched hynod 'ma, sy' 'di gadael eu marc ar hanes Cymru - oherwydd 'dy ni ar fin colli'r stor茂au 'ma.

"Ond oherwydd y sylw ddaeth yn dilyn ein rhaglen ni ar Gwen, 'dy ni 'di llwyddo i gael cofeb iddi yn y wlad lle bu hi'n byw, gweithio a marw.

"Mi fydd pawb, nawr, sy'n mynd i Dieppe yn gwybod am Gwen John."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol