Yma o Hyd yw dewis y bobl
- Cyhoeddwyd
Yma o Hyd gan Dafydd Iwan ac Ar Log sydd wedi dod i frig Siart Fawr yr Haf ar Radio Cymru.
Fe wnaeth dros 1,500 bleidleisio dros eu tair hoff g芒n a chafodd y 40 uchaf i gyd eu chwarae ar y radio ar brynhawn dydd Llun G诺yl y Banc mis Awst.
Roedd nifer o ganeuon cyfarwydd ar y rhestr gan gynnwys pedair gan Bryn F么n, ond roedd llawer o rai cyfoes hefyd gyda S诺nami a'r Bandana 芒 thair c芒n yr un.
Hen glasuron yw'r 10 uchaf i gyd heblaw am Anifail gan y band ifanc o Benllyn, Candelas.
Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: "Ni wrth ein boddau bod gymaint o'r gynulleidfa wedi cyfrannu at Siart Fawr yr Haf a rhannu eu hoff ganeuon gyda ni. Mae pobol wedi mynd i drafferth i feddwl o ddifri am ganeuon sy'n gofiadwy iddyn nhw, yn golygu rhywbeth iddyn nhw neu falle yn eu hysgogi nhw i neidio ar eu traed a chanu!
"Mae'r Siart yn cynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth Gymraeg o sawl cyfnod ac mae'n wych gweld bod amryw o fandiau ifanc, gan gynnwys artistiaid prosiect Gorwelion, sydd wedi cael cefnogaeth Radio Cymru, sef S诺nami a'r Candelas, yn dod i'r amlwg. Maen nhw'n cael eu lle yn y deugain law yn llaw a'r clasuron ac mae hynny'n beth gwych."
Y rhestr lawn
1 Dafydd Iwan ac Ar Log - Yma o Hyd
2 Rhys Meirion - Anfonaf Angel
3 Edward H Dafis - Ysbryd y Nos
4 Bryn F么n - Ceidwad y Goleudy
5 Elin Fflur - Harbwr Diogel
6 Huw Chiswel - Y Cwm
7 Candelas - Anifail
8 Maharishi - T欧 Ar y Mynydd
9 Gwibdaith Hen Fran - Tr么ns Dy Dad
10 Elin Fflur - Ar Lan y M么r
11 Bromas - Merched Mumbai
12 Tebot Piws - Lleucu Llwyd
13 Bando - Chwarae'n Troi'n Chwerw
14 Dafydd Iwan - Esgair Llyn
15 Edward H Dafis - Breuddwyd Roc a R么l
16 Bandana - Geiban
17 Gwibdaith Hen Fran - Coffi Du
18 Yr Eira - Elin
19 Gwyneth Glyn - Adra
20 S诺nami - Y Nos
21 Meic Stevens - M么r o Gariad
22 Y Bandana - Heno yn yr Anglesey
23 Big Leaves - Seithenyn
24 S诺nami - Gwreiddiau
25 Tecwyn Ifan - Y Dref Wen
26 Catrin Herbert - Ein Tir Na Nog ein Hunain
27 Dafydd Iwan - Pam fod Eira yn Wyn?
28 Meic Stevens - Y Brawd Houdini
29 Colorama - Dere Mewn
30 Bryn F么n - Abacus
31 Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr - Ethiopia Newydd
32 Y Cyrff - Cymru Lloegr a Llanrwst
33 Yr Ods - Y B锚l yn Rowlio
34 Bryn F么n - Cofio dy Wyneb
35 Diffiniad - Calon
36 Bandana - Can y T芒n
37 Caryl Parry Jones - West is Best
38 Bryn F么n - Rebal W卯cend
39 Catrin Herbert - Disgyn Amdana Ti
40 S诺nami - Du a Gwyn
Beth yw'ch barn chi am y siart? Cytuno bod Dafydd Iwan yn haeddu ei le ar y brig? Neu'n gandryll gyda'r diffyg Datblygu a Tystion ar y rhestr? Cysylltwch 芒 Cymru Fyw ar ein cyfeiriad ebost cymrufyw@bbc.co.uk i rannu eich barn.