大象传媒

C诺n defaid yn defnyddio dwy reol syml wrth gasglu defaid

  • Cyhoeddwyd
DefaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Andrew King o Brifysgol Abertawe: "Mae'r ci'n gweld pethau gwyn, 'fflwffog' o'i flaen".

Mae gwyddonwyr wedi darganfod bod c诺n defaid yn defnyddio dwy reol syml i gasglu nifer fawr o ddefaid.

Yn 么l y gwyddonwyr, gall y darganfyddiad arwain at ddatblygu robotiaid sy'n gallu casglu da byw, datblygu technegau rheoli torfeydd a dulliau newydd glanhau'r amgylchedd.

Am y tro cyntaf mae gwyddonwyr wedi defnyddio technoleg GPS i ddeall sut mae c诺n defaid yn gwneud eu gwaith gystal.

Hyd yn hyn nid oedd gan wyddonwyr unrhyw syniad sut oedd y c诺n yn llwyddo i gael cymaint o ddefaid anfodlon i symud i'r un cyfeiriad.

'Model bugeilio mathemategol'

Roedd Dr Andrew King o Brifysgol Abertawe, sy'n Gymrawd y Cyngor Ymchwil Amgylcheddol Naturiol, wedi rhoi bagiau yn cynnwys dyfais GPS hynod o gywir ar gefn praidd o ddefaid a chi defaid.

Roedd y ddyfais wedi'i ddylunio gan gyd-weithwyr o'r Royal Veterinary College yn Llundain.

Yna defnyddiodd Daniel Str枚mbom a'i gyd-weithwyr o Brifysgol Uppsala yn Sweden wybodaeth o'r dyfeisiadau, ynghyd ag efelychiadau cyfrifiadurol, i ddatblygu model bugeilio mathemategol.

Llwyddodd y t卯m i ddarganfod bod y c诺n defaid yn debygol o ddefnyddio dwy reol syml - un i gasglu'r defaid pan maen nhw wedi gwasgaru a'r llall i'w gyrru ymlaen pan maen nhw wedi casglu at ei gilydd.

Ar sail y model hwn gallai un bugail gasglu praidd o hyd at 100 o ddefaid unigol drwy ddefnyddio'r ddwy reol yma.

'Bylchau rhwng y defaid'

Dywedodd y Dr King: "Os ydych chi'n gwylio c诺n defaid yn casglu defaid, mae'r ci yn symud yn 么l ac ymlaen tu 么l i'r praidd yn union y ffordd rydym ni wedi gweld yn ein model.

"Roedd yn rhaid i ni feddwl am beth oedd y ci'n gallu ei gweld er mwyn datblygu ein model. Mae'r ci'n gweld pethau gwyn, 'fflwffog' o'i flaen.

"Os yw'r ci'n gweld bylchau rhwng y defaid, neu os ydi'r bylchau'n cynyddu, mae'n rhaid i'r ci ddod 芒'r defaid at ei gilydd."

Yn 么l Daniel Str枚mbom: "Tydi modelau eraill ddim yn gallu casglu grwpiau mawr - cyn gynted ag y mae'r niferoedd o ddefaid unigol yn uwch na 50, mae angen sawl bugail a sawl ci defaid."

Dywedodd Dr King: "Gall yr wybodaeth hon gael ei defnyddio mewn sawl ffordd fel rheoli torfeydd, glanhau'r amgylchedd, casglu da byw, cadw anifeiliaid oddi wrth ardaloedd sensitif, a chasglu neu arwain grwpiau o robotiaid sy'n archwilio ardal benodol."