大象传媒

Datblygu Dylanwad

  • Cyhoeddwyd

Roedd John Peel ymhlith eu cefnogwyr mwyaf brwd a mae cerddorion gan gynnwys Gruff Rhys wedi siarad yn gyhoeddus am eu dyled i Datblygu.

Cafodd y gr诺p ei ffurfio yn 1982 gan David R Edwards a T Wyn Jones, bechgyn ysgol o Aberteifi, gyda Pat Morgan yn ymuno yn 1984. Roedd y band yn feirniadol o realiti y byd Cymraeg ac yn gwbl ddi-flewyn ar dafod.

Bydd ffilm ddogfen Prosiect Datblygu, sy'n cael ei darlledu ar S4C nos Iau, Awst 27ain, yn olrhain hanes y band a'u dylanwad ar ddiwylliant Cymru. Cafodd 大象传媒 Cymru Fyw sgwrs efo David R Edwards am y ffilm a'i gerddoriaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

David R Edwards

Sut brofiad oedd ffilmio Prosiect Datblygu?

"Wel oedd e'n gr锚t. Oedd Owain Ll欧r yn pwyntio'r camera, a bant 芒 ni. Dwi'n nabod Owain ers blynyddoedd, ac wnaeth o awgrymu bod ni'n gwneud ffilm.

"Doeddwn ddim yn disgwyl i'r ffilm fod ar y teledu, oni'n meddwl fod o am fod just yn y sinema yn Aberteifi."

Beth oedd y syniad tu 么l sefydlu'r band n么l yn 1982?

"I ddweud y gwir uffern y 6ed dosbarth yn yr ysgol oedd e i ddechrau - y ffaith o'n i ddim eisiau bod yna, teimlo rhwystredigaeth uffernol o orfod gwneud Lefel A a pethe.

"O'n i ishe neud rhywbeth yn yr iaith Gymraeg - dwi'n angerddol tu hwnt dros yr iaith. O'n i ishe neud miwsig modern gyda syniade fi am geirie.

"Wel o' ni ddim yn gwbod bydde gymaint o gynulleidfa... ond syth bin oedd cynulleidfa, pobl yn troi lan i'r gigs cynnar a prynu'r casets cynnar a phethe. Ddim yn y cannoedd ond digon i rhoi hyder i ni gario 'mlaen."

Ffynhonnell y llun, Datblygu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Datblygu

Oedd yna benderfyniad pendant i ganu yn Gymraeg?

"Oedd, o'n i ddim yn gweld pwynt gwneud e'n Saesneg gan taw Cymro ydw i. Gyda lot o'r bands galle nhw ddod o unman, gyda Datblygu chi gallu dweud 'wel mae rhain yn dod o Dde Cymru, neu De-orllewin Cymru yn bendant' chi'n gwbod. So, dyna beth odd y peth rili."

Wrth i'r band ennill dilyniant dros y ffin, oedd Datblygu yn teimlo dan unrhyw bwysau o gwbl i ganu'n Saesneg?

"Na, bydde ni byth wedi canu yn Saesneg. Beth wnes i wneud o'dd aros yn dawel, a gadel yr holl beth ffizzlo mas, y C诺l Cymru peth 'na. 'Sai yn beirniadu y bandiau 'na am ganu'n Saesneg, neu yn hytrach, 'sgen i ddim rhagfarn tuag aton nhw am ganu'n Saesneg, yn mynd am y pres ac yn y blaen.

"Bydde'n well 'da fi weld Mark Roberts o Catatonia yn whare git芒r ar Top of the Pops yn hytrach na gweithio mewn siop cigydd fel o'dd e yn 'neud. O'n safbwynt i, nes i just eistedd n么l a gwylio'r holl beth a gadael iddo fe ffizzlanallan a wedyn, pan oedd yr amser yn iawn, daeth Datblygu n么l 'gyda bang!' gyda EP yn 2012 a LP y flwyddyn yma!"

Ffynhonnell y llun, Betsan Haf Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dave a Pat yn dal i fod yn ddylanwadau mawr

Mae nifer o fandiau Cymraeg wedi sn am ddylanwad mawr Datblygu ar eu cerddoriaeth. Oeddech chi fel band yn credu eich bod yn cael y sylw haeddiannol?

"Yn Lloegr mi roedden ni. O'n i ar raglen radio John Peel - gaethon ni bump sesiwn gyda John Peel, a sdim unrhyw fand Cymraeg arall 'di cael gymaint o sesiynau. O'n i'n mynd lan i Lundain a chanu'n Gymraeg, gallen i 'di canu'n Saesneg os o'n i am, ond na, o'n i'n canu'n Gymraeg 100% bob tro, achos mai Cymro ydw i.

"O'n i yn cal y sylw, roedd pobl yng Nghymru'n clywed ni ac oedd pobl yn Lloegr yn clywed ni, a 'da ni dal yn cael fanmail o bobl yn Lloegr, just ambell un nawr ac yn y man, a dy'n ni'n ateb nhw, yn cyfathrebu. Ma' nhw'n gofyn am y lyrics, a wedyn 'wi'n cyfieithu nhw neu rhoi ystyr y caneuon iddyn nhw."

Beth yw dy hoff gn Datblygu?

"Ma hwnna'n gwestiwn caled - i ddefnyddio'r ystrydeb, mae hwnna fel gofyn i ddyn gyda llond t欧 o blant pwy yw ei hoff blentyn e! Ond, bydden i'n dewis rhywbeth oddi ar ein LP newydd ni. Erbyn Hyn yw enw'r albwm, mae wyth c芒n arno fe, a ni'n fwy cyfforddus efo beth ni wedi neud efo'r LP yma nag unrhywbeth ni 'di neud yn y gorffennol."

Mae 大象传媒 Radio Cymru newydd gyhoeddi rhestr o hoff gn Gymraeg y gwrandawyr. Beth yw dy ffefryn di?

"Bydde ni'n dweud 'Garej Paradwys' gan Ail Symudiad. Mae'r g芒n 'di cael ei hysgrifennu am siop ddillad yng Nghaerdydd n么l yn yr 80au cynnar, ond i fi ma fe'n s么n am rhywbeth hollol wahanol, mae'n s么n am freuddwydion yn dod yn wir, optimistiaeth a positivity a'r fath yna o beth. Mae'r g芒n yn wych. Mae mond yn para tua dwy funud, dwy funud a hanner, ond mae'n g芒n pop glasurol, yn nhraddodiad yr Ail Symudiad cynnar...honna yw fy hoff gan Gymraeg i."

Oes yna fandiau Cymraeg heddiw rwyt ti'n eu hedmygu?

"Endaf Gremlin - dwi'n licio nhw. Dau Cefn. Ma' llwyth ohonyn nhw yn dos e?! R.Seiliog, sy'n arbrofi lot, ma nhw'n dda iawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dave yn hoffi cerddoriaeth Endaf Gremlin

Ydi'r s卯n Gymraeg yn iach?

"Mae rhai pethau dwi ddim yn hoffi, ma rhai pethau rhy felys i fi, hyd yn oed rhai o'r bands ifanc. Ond os ydych chi'n gwrando ar fandiau fel Castro, ma' nhw'n wych, a Ffug, ma' nhw'n wych hefyd, ac ma' agwedd gyda nhw - dwi'n licio nhw.

"Dwi'n cadw fy nghlustie ar bethe, mae Radio Cymru yn wych ar 么l 7 o'r gloch yn y nos. Does dim posib plesio pawb o hyd ond dyna fe, rhaid gweud, gyda C2- I love it!"

Mae'r ffilm yn trafod adegau tywyll yn eich bywyd- sut ydych chi'n teimlo yn eich hun dyddiauyma?

"Dwi'n iawn nawr. O'n i'n s芒l ac yn methu functiono, oedd y doctoriaid yn rhoi ffisig i fi ond doedd e ddim yn gweithio'n iawn, ond mae'r cyffurie dwi'n cal nawr a'r doctoriaid nawr yn berffaith, ac yn cadw fi'n wastad. Yn y gorffennol odd gyda fi broblem gyda alcohol, ond nawr dwi'n gallu rheoli fe. Dwi'n cal ambell i ddrinc ond ddim byd dros ben llestri."

Beth am y dyfodol, oes na fwy o recordio i ddod?

"Wes, ni 'di cychwyn ar demos ar gyfer albym fydd yn dod mas yn 2016. Mae record mas gen ni ar y funud, ac wedyn ry'n ni am aros blwyddyn a hanner i ddwy flynedd cyn rhyddhau y nesaf."

Ffynhonnell y llun, Datblygu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Datblygu - y dyddiau cynnar