Pont Briwet: Rhagor o oedi
- Cyhoeddwyd
Fydd y prosiect i adnewyddu'r bont dros aber Afon Dwyryd ddim yn gorffen erbyn Chwefror 2015 wedi'r cyfan.
Yn 么l Cyngor Gwynedd, mae nifer o drafferthion wedi amharu ar y gwaith.
Mewn datganiad ddydd Iau, fe ddywedodd y cyngor fod y contractwyr "wedi caniat谩u peth amser ar gyfer oedi na ellid ei ragweld, megis gwasanaethau heb eu gorffen mewn pryd neu dywydd drwg".
Er hyn, meddai'r cyngor, "mae'n hynod annhebygol bydd y ffordd newydd yn agor cyn mis Mehefin 2015."
Ymysg y trafferthion sydd wedi effeithio ar waith y contractwyr, Hochtief, mae:
Gwaith National Grid ar beilon cyfagos a stormydd difrifol llynedd;
rhaglen waith awdurdodau statudol i symud gwasanaethau o'r hen bont i'r un newydd - mae D诺r Cymru a BT ar y safle ar hyn o bryd ac wedi dechrau ar y gwaith o drosglwyddo'r gwasanaethau d诺r a chebl ffibr optig;
oedi difrifol i ddymchwel yr hen bont.
Yn 么l y contractwyr, dylai'r hen bont "ddechrau cael ei dymchwel ddiwedd y mis hwn os bydd y gwaith o symud y gwasanaethau'n symud ymlaen yn 么l y disgwyl."
'Hynod siomedig'
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
"Fel Cyngor, rydym yn hynod siomedig na fydd y bont ffordd yn agor fis Chwefror fel roedd y contractwyr yn gado ar ddechrau'r prosiect, ac rydym yn deall rhwystredigaeth pobl yr ardal dros yr oedi hyn.
"Dyfarnwyd contract Pont Briwet i Hochtief fis Chwefror 2013, yn seiliedig ar eu tendr a oedd yn cynnwys dyddiad gorffen y gwaith yn Chwefror 2015.
"Er ei bod yn anorfod bydd oedi na ellir ei osgoi gyda phrosiectau cymhleth fel hyn, mae'n hynod siomedig y bydd y dyddiad gorffen pedwar mis yn hwyrach na'r disgwyl.
'Wedi dioddef'
"Mae cymunedau'r ardal wedi dioddef mwy na'r disgwyl gan na fu'n bosibl defnyddio'r hen bont fel cynlluniwyd yn wreiddiol. Golyga hyn bydd yn rhaid i yrwyr barhau i fynd drwy Faentwrog. Gallwn ni ond ymddiheuro i drigolion yr ardal am yr anhwylustod.
"Fodd bynnag, bydd y system hebrwng a gyflwynwyd ar gyfer traffig ar yr A496 pan aeth yr hen bont yn rhy beryglus, yn parhau i weithredu hyd nes y bydd y bont ffordd newydd yn agor."
Mae'r contractwyr yn pwysleisio y byddan nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i orffen y contract gwaith cyn gynted a bo modd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2014
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2014