Cyhoeddi'r cam nesaf ar gynlluniau band eang cyflym

Disgrifiad o'r llun, Addewid i gynnig band eang ffeibr cyflym i fwy o leoliadau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru a BT wedi dweud eu bod yn bwriadu dechrau gwaith ar bob cyfnewidfa ff么n yng Nghymru cyn diwedd Medi 2015 er mwyn cynnig gwasanaeth band eang cyflym i fwy o leoliadau ar draws Cymru.

Mae gan gynllun Cyflymu Cymru darged fod 96% o gartrefi a busnesau Cymru yn derbyn gwasanaeth o leiaf 24MB yr eiliad erbyn 2016.

Ym Mehefin 2014 roedd band eang cyflym iawn ar gael i 58% o eiddo yng Nghymru o gymharu 芒 78% ar draws y DU.

Mae rhaglen Cyflymu Cymru'n ymgeisio i greu buddion i leoliadau a busnesau gwledig tu hwnt i gyrraedd cynlluniau masnachol y sector preifat.

Wrth gyhoeddi manylion trydedd flwyddyn rhaglen Cyflymu Cymru, meddai Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: "Mae rhaglen Cyflymu Cymru yn un uchelgeisiol a heriol, ac yn dod 芒 band eang ffibr cyflym i bob cwr o'r wlad. Ni ddylem danbrisio pa mor anferthol yw'r dasg."

'Newyddion gwych'

Ychwanegodd Ms James: "O Ben Ll欧n i Sir Fynwy bydd gan gymunedau'r opsiwn i ddefnyddio band eang ffibr cyflym. Mae'n gamp aruthrol ac yn newyddion gwych i fusnesau a chartrefi."

Bydd y prosiect yn gosod 17,500 cilometr o geblau ffibr optegol a thua 3,000 o gypyrddau gwyrdd ar draws Cymru er mwyn ceisio sicrhau band eang cyflym i gartrefi a busnesau ar draws y wlad.

Mae'r 58% sy'n derbyn band eang ffibr yn gynnydd o 10% mewn blwyddyn ond mae Cymru'n parhau i fod ar gyfran leiaf ymysg gwledydd Prydain, sydd 芒 chyfartaledd darpariaeth o 78%.

Dywedodd Elise Stewart ar ran cwmni The Factory yn Rhondda Cynon Taf, sydd wedi manteisio ar fand eang cyflym: "Mae band eang cyflym iawn yn hanfodol bwysig o safbwynt economaidd. Fe gewch eich synnu a'ch rhyfeddu unwaith y sylweddolwch chi faint o wahaniaeth ymarferol, go iawn y mae'n ei wneud."

Disgrifiad o'r llun, Mae Cymru'n parhau i fod ar ei h么l hi mewn cymhariaeth a ffigyrau'r DU.

Cyrraedd Targedau

Cafwyd canmoliaeth yn adroddiad blynyddol OFCOM - y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant - am waith Cyflymu Cymru ar yrru'r prosiect.

Mae adroddiad OFCOM hefyd yn nodi bod y 71% sydd wedi cydio mewn gwasanaethau band eang safonol, nid band eang ffeibr cyflym yn parhau i fod 6% yn llai na chyfartaledd y DU.

Mae 20% o leoliadau yng Nghymru yn parhau i fod heb unrhyw fath o wasanaeth band eang.

Darparwyd cyllid gwerth 拢205m gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, gyda BT yn cyfrannu 拢220m pellach i gyflwyno ffibr ar draws Cymru gyda'r nod o gyrraedd eu targedau erbyn 2016.