Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Methu dod i benderfyniad am benodi'r Comisiynydd Plant nesaf
Mae 大象传媒 Cymru ar ddeall bod panel wedi methu dod i benderfyniad yngl欧n 芒 phenodi'r Comisiynydd Plant nesaf.
Roedd y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y swydd yng nghanol mis Mai, ond yn dilyn cyfres o gyfweliadau cafodd yr ymgeiswyr wybod nad oedd penderfyniad wedi'i wneud.
Cafodd yr ymgeiswyr eu cyfweld eto ym mis Medi, a hynny gan gr诺p trawsbleidiol o aelodau'r cynulliad a phobl ifanc.
Roedd tri o ymgeiswyr ar y rhestr fer i olynu Keith Towler sydd wedi bod yn y swydd ers Mawrth 2008. Bydd yn gadael y swydd ar ddiwedd mis Chwefror.
'Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru'
Dywedodd Mr Towler: "Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw penodi Comisiynydd Plant nesaf Cymru. Ar hyn o bryd ein blaenoriaeth yw cwblhau gwaith uchelgeisiol y Comisiynydd presennol i hybu a diogelu hawliau a lles plant, gan baratoi'r gorau gallwn ni ar gyfer croesawu'r Comisiynydd newydd ar 1 Mawrth 2015."
Mae un o'r ymgeiswyr, Helen Mary Jones, wedi tynnu ei chais yn 么l wedi iddi gael ei henwebu fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Llanelli yn etholiad y Cynulliad yn 2016.
Mae'r cyfrifoldeb dros gadarnhau'r penodiad wedi ei drosglwyddo o ddwylo Jeff Cuthbert i Lesley Griffiths y mis diwethaf, a hynny'n dilyn ad-drefnu'r cabinet ym Mae Caerdydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Mae honiadau bod y panel wedi methu cael hyd i ymgeisydd addas ar gyfer swydd y Comisiynydd Plant yn anghywir. Bydd y gweinidog yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yr wythnos yma, gan gyflwyno'r sefyllfa ddiweddaraf a'r camau nesaf."
Roedd y broses recriwtio yn cael ei chynnal yng nghanol adolygiad Llywodraeth Cymru o swydd Comisiynydd Plant Cymru. Bydd canlyniadau'r adolygiad yn cael eu cyflwyno i'r gweinidog ym mis Rhagfyr.