大象传媒

Bae Colwyn: Cwblhau gwaith gwerth 拢6.7 miliwn

  • Cyhoeddwyd
Traeth Bae Colwyn

Mae gwaith diweddaraf Prosiect Glan y M么r ym Mae Colwyn wedi ei gwblhau, gan olygu bod yr ardal wedi ei hail-agor i'r cyhoedd.

Mae prosiect Glan y M么r yn gyfres o amddiffynfeydd m么r a gynlluniwyd i amddiffyn rhag llifogydd a difrod o'r m么r, gan ddiogelu'r rheilffordd, yr A55, busnesau a chartrefi ym Mae Colwyn.

Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gwella'r promen芒d.

拢6.7 miliwn

Mae'r cam diweddaraf o'r gwaith, sy'n werth cyfanswm o dros 拢6.7 miliwn, yn cynnwys gwaith atgyweirio hanfodol i'r wal f么r bresennol ac adnewyddu'r rhan o'r promen芒d rhwng Porth Eirias a'r pier, gyda'r promen芒d yn cael ei godi ac yn cael wyneb newydd.

Dechreuodd y gwaith ym mis Mawrth eleni.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru grant amddiffyn rhag llifogydd gwerth 拢5 miliwn i'r prosiect, gan ariannu'r gwaith i'r wal f么r a gwaith pellach i ail-lenwi'r traeth drwy fewnforio 220,000 tunnell o dywod gan ymestyn traeth Bae Colwyn.

Ariannwyd y gwaith o wella'r promen芒d a'r cyswllt 芒'r dref o dan y rheilffordd, a oedd yn golygu gosod wynebau a goleuadau newydd, gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (Wefo) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

'Gwaith hanfodol'

Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet dros Briffyrdd, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd: "Mae'r prosiect Glan y M么r yn darparu ateb tymor hir a fydd yn amddiffyn y dref am flynyddoedd i ddod.

"Gwelodd pawb effaith y stormydd ar ddechrau'r flwyddyn, a sut y mae'r gwaith hwn yn cyflawni ei swyddogaeth o warchod y promen芒d a'r dref.

"Heb y gwaith hanfodol hwn, byddai'r stormydd wedi cael mwy o effaith ym Mae Colwyn."

Ychwanegodd y cynghorydd Graham Rees, Aelod y Cabinet dros Dwristiaeth, Marchnata a Hamdden: "Bydd y traeth a'r promen芒d yn asedau gwych i breswylwyr a bydd yn gwella profiad ymwelwyr ym Mae Colwyn am flynyddoedd i ddod, a fydd hefyd yn helpu adfywiad economaidd y dref."