Rhybudd am allyriadau gorsaf b诺er Aberddawan ym Mro Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Gallai'r DU gael ei chyfeirio at Lys Cyfiawnder Ewrop oherwydd honiadau bod gorsaf b诺er ym Mro Morgannwg yn torri rheoliadau allyriadau.
Eisoes mae Comisiwn Ewrop wedi dweud nad ydi gorsaf Aberddawan wedi dilyn cyfyngiadau ar nwyon nitrogen ocsid ers 2008.
Mae gan Lywodraeth y DU ddau fis i ymateb i bryderon y comisiwn.
Dywedodd y cwmni sy'n rheoli'r orsaf, RWE npower, y byddai offer newydd yn cael eu gosod yn Aberddawan y flwyddyn nesaf.
Ddwywaith y lefel gyfreithlon
Gall nitrogen ocsid sy'n cael ei ryddhau wrth i danwydd gael ei losgi gael effaith ddifrifol ar iechyd a'r amgylchedd, wrth achosi clefydau anadlu, asideiddio pridd a d诺r a gwneud niwed i blanhigion.
Dywedodd y comisiwn bod yr orsaf b诺er ger Y Barri yn rhyddhau dros ddwywaith y lefel gyfreithiol o'r nwyon.
Bydd rheolau llymach yngl欧n 芒 gorsafoedd p诺er yn cael eu cyflwyno ym mis Ionawr 2016, a hynny drwy'r Undeb Ewropeaidd gyfan.
拢75尘
Mae gorsaf b诺er Aberddawan yn cyflogi bron 600 o weithwyr llawn amser a rhan amser ac mae cwmni RWE npower yn honni y gall gyflenwi p诺er ar gyfer tua 3m o gartrefi.
Yr amcangyfri yw bod yr orsaf b诺er yn werth 拢75 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn, ac mae rhai yn ofni y gallai unrhyw fygythiad gael effaith ar fusnesau eraill yng Nghymru.
Dywedodd Tyrone O'Sullivan, arweiniodd gais llwyddiannus y gweithwyr i brynu Glofa'r T诺r yng Nghwm Cynon, y byddai unrhyw fygythiad i Aberddawan "yn fygythiad sylweddol i Lofa'r T诺r a phob cynhyrchydd glo yng Nghymru."
Mae Glofa T诺r yn cyflenwi tua 650,000 tunnell o lo i Aberddawan, tri chwarter y glo sy'n cael ei gynhyrchu yno, meddai.
'Rhan hanfodol'
"Mae Aberddawan yn rhan hanfodol o system sy'n dosbarthu trydan drwy Brydain.
"Byddai'n wallgof cau Aberddawan ... Does dim ond angen edrych ar faint o lo sy'n cael ei losgi o amgylch y byd mewn gwledydd eraill fel China."
Dywedodd RWE npower bod gorsafoedd p诺er Ewrop mewn marchnad "gynyddol anodd".
"Mae angen cefnogaeth drawsbleidiol ym Mhrydain ar gyfer gweithredu polisi ynni fydd yn creu'r math o sefydlogrwydd yn y farchnad ar gyfer penderfyniadau yngl欧n 芒 buddsoddiadau mawr, hir-dymor."
Dehongliadau
Hanfod yr anghydfod yw dehongliadau gwahanol o swm y nwyon nitrogen ocsid sy'n gallu cael eu rhyddhau o orsaf b诺er Aberddawan.
Mae RWE eisoes wedi ymdrin ag allyriadau sylffwr deuocsid, gan fwriadu ymdrin ag allyriadau nitrogen yn y pedair blynedd nesaf.
Y cwestiwn yw a fyddan nhw'n gallu cydymffurfio gyda rheolau'r Undeb Ewropeaidd yn ddigon buan?