Cyngor Penfro yn cytuno ar becyn diswyddo 拢330,000
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Sir Penfro wedi pleidleisio o blaid cynnig pecyn t芒l diswyddo i brif weithredwr y Cyngor, Bryn Parry Jones.
Pleidleisiodd 29 o gynghorwyr o blaid y cynnig a phleidleisiodd 23 o gynghorwyr yn erbyn y cynnig.
Bydd Mr Parry-Jones yn derbyn pecyn diswyddo gwerth 拢330,000, a bydd yn gadael ei swydd ar 31 Hydref.
Pwysau i ymddiswyddo
Daw hyn yn sgil ffrae ynghylch adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru fis Ionawr oedd yn dweud fod taliadau a dderbyniodd Mr Parry Jones yn lle cyfraniadau pensiwn yn "anghyfreithlon".
Daeth dau ymchwiliad gan Heddlu Sir Gaerloyw i'r casgliad nad oedd tystiolaeth ei fod wedi troseddu.
Ond fe gafodd pwyllgor arbennig ei sefydlu er mwyn ystyried ei ymddygiad cyffredinol wedi i'r cyngor pasio pleidlais o ddiffyg hyder ynddo.
Mr Parry Jones, gafodd ei benodi fel prif weithredwr yn 1995, sy'n golygu mai ef yw'r prif weithredwr sydd wedi bod yn ei swydd am yr amser hiraf allan o bob awdurdod lleol Cymreig.
Ef hefyd sy'n derbyn y cyflog uchaf am wneud swydd prif weithredwr, sef bron i 拢195,000 gyda buddiannau ychwanegol eraill.
Mae wedi bod dan bwysau i ymddiswyddo ers cyhoeddiad adroddiad y Swyddfa Archwilio ond mae wedi gwrthod y galwadau i gamu lawr hyd yn hyn.
Drysau caeedig
Derbyniodd 大象传媒 Cymru gadarnhad o'r cynnig o becyn t芒l diswyddo i Bryn Parry Jones yn gynharach ym mis Hydref, a hynny gan aelod o Bwyllgor Ymchwiliad Disgyblu'r Cyngor.
Dywedodd Paul Miller, sy'n arwain gwrthblaid Llafur ar Gyngor Sir Benfro, y dylai'r drafodaeth yngl欧n 芒'r pecyn t芒l diswyddo fod "yn llygaid y cyhoedd".
Ond, pleidleisiodd y cynghorwyr i drafod y pecyn t芒l diswyddo y tu 么l i ddrysau caeedig.