Ateb y Galw: Elin Fflur
- Cyhoeddwyd
Tro Elin Fflur ydi hi i ateb cwestiynau 大象传媒 Cymru Fyw yr wythnos hon. Mi gafodd hi ei henwebu gan
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf ydi eistedd yn ystafell gefn t欧 fy Nain yn Llanfairpwll. Dwi'n dal i gofio arogl y Lobsgows yn ffrwtian yn y gegin tra oeddwn i'n chwarae efo fy nhegannau. Ymhlith y bocs o degannau oedd ff么n oren hen ffasiwn a hwnnw oedd fy hoff degan.
Roedd llun anferth ar y wal uwchben y bwrdd yn yr ystafell, o fy Mam yn ei ffrog briodas. Roedd y llun mor fawr, wel trwy lygaid merch fach beth bynnag, a byddwn yn cogio ffonio fy Mam ar y ff么n oren a Nain yn chwerthin ac yn fy annog i ofyn cwestiynau.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Y crush mwyaf ges i yn fy arddegau oedd Ryan Giggs. Roedd gen i boster anferth ohono ar y wal wrth ochr y gwely, mewn kit Cymru wrth gwrs - nid Manchester United gan fy mod yn Evertonian brwd, a dau frawd oedd yn fwy byth o ffans!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Lle mae dechra? Dwi'n berson clumsy iawn, ac un o'r adegau gwaethaf o bosib oedd pan es i draw i Barcelona i ganu mewn g诺yl fwyd. Dwi'n cofio eistedd yn y bar efo fy ffrind a cwpwl o bobl o Ddenmarc yn eistedd wrth ein hochr.
Dyma rywbeth digri yn digwydd a dyma chwerthin mawr, a nes i chwerthin gymaint fe symudodd fy st么l yn sydyn iawn ac fe ddisgynais wyneb lawr rhwng goesau y dyn o Denmarc. Nes i lanio yn y lle gwaethaf bosib!!! Dyna beth oedd cywilydd!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Yn gwylio'r ffilm Philadelphia - o'n i'n crio go iawn!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Arferion drwg - dwi'n trio meddwl am yr arferion da!! Ond y gwaethaf?? Dwi'n wael iawn am gadw lle yn dwt. Mae fy nesg yn ofnadwy, dwi'n si诺r bod fy nghydweithwyr yn tynnu gwallt eu pen! Mae gen i gasgliad go dda o gwpanau budur ar fy nesg.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Tydw i heb deithio hanner digon a deud y gwir. Ond rwy'n caru America ac yn dymuno teithio llawer mwy o gwmpas y wlad. Yn sicr fe fydd San Francisco yn aros yn y cof am byth.
S么n am ddinas ddifyr - o'r bwyd, i'r gerddoriaeth, i'r bensaern茂aeth, roedd profiad newydd yn ein disgwyl o gwmpas pob cornel. Efrog Newydd, Vegas hefyd yn anhygoel, ond yn agosach at adra dwi wedi mopio efo Manceinion!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Hen fod yn rhy cliche - ond noson fy mhriodas heb os nac oni bai. Toes 'na ddim llawer o adegau mewn bywyd mae rhywun yn gallu cael yr holl bobl mae nhw'n eu caru mewn un ystafell, ein teulu, ffrindiau agosaf, lleoliad perffaith, ein hoff gerddoriaeth, hoff fwyd - y noson orau erioed!
Oes gen ti dat诺?
Nagoes, er dwi'n meddwl cael un! Pan ar fy ngwyliau yr haf yma daeth tat诺s i fyny'n y sgwrs o gwmpas y bwrdd bwyd, ac fe ddywedodd fy mam rywbeth a wnaeth i mi feddwl - 'dwi'n difaru peidio cael un, ond dwi rhy hen rwan' - a meddyliais, pam ddim mynd amdani yn lle pendroni a phoeni. Felly gwyliwch allan am y tat诺!!
Beth yw dy hoff lyfr?
Anodd! Dwi'n caru llyfrau Dorothy Koomson, The Bonesetter's Daughter gan Amy Tan, The Other Hand gan Chris Cleave a nofelau Cymraeg, Fflur Dafydd, Kate Roberts, ayyb.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Fy siaced ledr nes i brynu pan o'n i tua 20 mlwydd oed. Mae dal i fynd!
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?
Nes i wylio 28 Days Later am y canfed tro noson o'r blaen. Yn sgil yr holl stori ebola yma, nes i fentro gwylio. Do, fe wnes ddychryn fy hun hyd yn oed yn fwy wrth wylio hwn. Er deud hynny, mae'n ffilm mor wych gan Danny Boyle, wnai fyth ddiflasu arni.
Dy hoff albwm?
Sori methu ateb - hen gwestiwn anodd! Gormod i'w rhestru, ond cyfnod y 90au dwi'n garu
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Prif gwrs. Anodd dewis be'!
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Anfon txt am ryw reswm. A mae PAWB sy'n fy nabod i yn dda yn gwybod mae fi ydi'r person gwaethaf am ateb ff么n/tecst. Ff么n fel arfer yng ngwaelod y bag neu ar silent oherwydd fy ngwaith. Dwi'n anghofus iawn hefyd felly'r peryg ydi os nad ydw i'n ateb yn syth mae wedi canu arna chi!
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Matilda, un o gymeriadau Roald Dahl. Meddyliwch yr hwyl 'swn i'n gael!!
Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesa'?
Gerallt Pennant