大象传媒

Adroddiad blynyddol ar ofal diwedd oes

  • Cyhoeddwyd
Person oedrannus
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 75% o bobl yn derbyn rhyw fath o ofal lliniarol ar ddiwedd eu bywydau.

Mae adroddiad blynyddol yngl欧n 芒 gofal diwedd oes yn dangos bod gan gleifion a'u teuluoedd farn bositif yngl欧n 芒 gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru.

Roedd sg么r cyfartalog yr adborth yngl欧n 芒 gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol yn 9.56 allan o 10, a hynny yn 么l canlyniadau arolwg iWantGreatCare.

Mae'r canlyniadau'n rhan o'r adroddiad blynyddol yngl欧n 芒 gofal diwedd oes, yr adroddiad cyntaf o'r fath i ddarparu trosolwg manwl o'r gwasanaethau gofal lliniarol sydd ar gael yng Nghymru.

拢6.4 miliwn

Mae 32,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn, a nifer fawr ohonyn nhw yn dilyn afiechyd cronig, megis clefyd y galon, canser, str么c, clefyd resbiradol cronig, clefyd niwrolegol neu ddementia.

Mae 75% o bobl yn derbyn rhyw fath o ofal lliniarol ar ddiwedd eu bywydau.

Nod Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal diwedd oes a gwasanaethau gofal lliniarol yw bod pobl yng Nghymru gydag agwedd iach a realistig tuag at farwolaeth, gan gynllunio'n addas ar gyfer y digwyddiad. Yn ogystal dylai pobl sy'n marw yng Nghymru dderbyn gwasanaeth gofal o'r safon uchaf ble bynnag y maen nhw'n byw a marw, a beth bynnag eu cyflwr meddygol.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod gofal diwedd oes wedi gwella'n sylweddol ers 2008 pan fuddsoddodd y llywodraeth mewn gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol, gyda mwy na 拢6.4 miliwn yn cael ei roi i ysbytai a hosbisau yng Nghymru yn 2012-13.

'Gwahaniaeth enfawr'

Yn 么l yr adroddiad roedd 80% o gyfeiriadau am ofal lliniarol arbenigol brys wedi eu hasesu o fewn yr amser targed, ac roedd 94% o ymatebion i'r arolwg iWantGreatCare yngl欧n 芒 phrofiad cleifion o ofal lliniarol arbenigol yn bositif.

Wrth siarad yn hosbis T欧 Gobaith yng Nghonwy, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford:

"Mae'r adborth gan gleifion a'u teuluoedd yngl欧n 芒 gofal lliniarol arbenigol yng Nghymru wedi dangos bod y gwasanaethau yma'n gwneud gwahaniaeth enfawr i safon bywydau pobl.

"Dylai pobl dderbyn gofal o'r safon uchaf os ydyn nhw'n byw neu'n dewis marw, beth bynnag fo'r afiechyd neu anabledd sy'n eu heffeithio. Mae cyfraniad yr hosbisau yn gwbl hanfodol ar gyfer darparu gofal ardderchog.

"Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn dangos y cynnydd sy'n cael ei wneud ar draws Cymru, gan nodi meysydd ar gyfer rhagor o welliannau yn y dyfodol. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos sut mae byrddau iechyd yn gweithio i wella gofal diwedd oes."

Ychwanegodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru ar gyfer elusen Marie Curie:

"Mae Marie Curie yn croesawu'r asesiad hwn o wasanaethau lliniarol a gofal diwedd oes.

"Mae Cynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am welliannau parhaus a bydd yr adroddiad hwn yn gymorth i gyflawni hyn.

"Mae hi'n hanfodol bod cynnydd yn parhau i gael ei gyflawni er mwyn i bawb gydag anghenion diwedd oes allu derbyn ac elwa o'r gwasanaethau yma, waeth ble maen nhw'n byw neu beth yw eu cyflwr meddygol."