Gwefannau answyddogol 'yn twyllo pobl i dalu mwy na'r angen'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi honni bod pobl sy'n gwneud ceisiadau am drwydded yrru neu basport arlein yn cael eu twyllo gan wefannau sy'n ymddangos fel y wefan swyddogol, ond yn codi t芒l ychwanegol.
Dywedodd AS Islwyn, Chris Evans, bod rhai pobl wedi cael eu twyllo i dalu 拢1,000 yn fwy nag y dylen nhw fod wedi'i dalu.
Clywodd T欧'r Cyffredin bod y cwmn茂au'n gallu codi t芒l ychwanegol, a bod hynny'n gwbl gyfreithlon, ond eu bod nhw'n defnyddio "dulliau llechwraidd" i "dwyllo" pobl.
Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi Ddigidol, Ed Vaizey, bod gwefannau ffug yn cael eu cau lawr.
拢1,000
Dywedodd Mr Evans: "Mae'r gwefannau yma'n rhan o ddiwydiant sydd ar gynnydd, sy'n bodoli er mwyn twyllo'r cyhoedd i dalu mwy.
"Mae'n ffynnu drwy ddefnyddio dulliau llechwraidd er mwyn twyllo pobl i dalu llawer mwy na'r angen am wasanaethau'r llywodraeth."
Dywedodd Chris Evans bod pobl yn talu hyd at 拢1,000 yn fwy na'r disgwyl.
Ychwanegodd bod ei staff yn wynebu "mur o dawelwch" wrth geisio cysylltu 芒'r bobl sy'n rhedeg gwefannau o'r fath.
Dywedodd: "Mae hi'n ymddangos bod y cwmniau sy'n rhedeg y gwefannau yn eu cau i lawr unwaith maen nhw'n wynebu unrhyw fath o sylw."
Galwodd Mr Evans ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r gyfraith ar hawliau defnyddwyr er mwyn atal gwefannau o'r fath.
Roedd Tom Williams, 75 oed o Gefn Fforest ger Y Coed-duon, wedi cael braw pan welodd ei fod wedi talu mwy nag yr oedd yn disgwyl ei wneud am adnewyddu ei ddisg treth ar-lein.
Dywedodd: "Pan wnes i edrych ar fy nghyfrif banc roeddwn i wedi talu 拢40 yn ychwanegol.
"Es i'n 么l ar y wefan roeddwn i wedi'i defnyddio, ac roedd nodyn bach iawn yn y gornel yn dweud y byddai'n rhaid i mi dalu arian ychwanegol.
"Codais y mater gydag Adran Safonau Masnachu Caerffili - oherwydd roedd y wefan yn union fel gwefan y DVLA."
Mae Mr Williams wedi derbyn ad-daliad o'r 拢40, wedi iddo herio'r taliad.
Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi Ddigidol, Ed Vaizey: "Mae angen rhoi stop ar wefannau sy'n ceisio honni eu bod yn wefannau swyddogol y llywodraeth ac rydym i gyd yn cytuno ar hynny."
Dywedodd eu bod nhw'n gofyn i beiriannau chwilio'r rhyngrwyd i gael gwared ar hysbysebion ar gyfer gwefannau o'r fath, oherwydd bod yr hysbysebion yma'n aml yn fwy amlwg na'r hysbysebion ar gyfer y gwefannau swyddogol.