大象传媒

NUT: Profion yn 'ormod o straen ar blant ac athrawon'

  • Cyhoeddwyd
Arholiad
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Plant rhwng 7 ac 14 oed sy'n gwneud y profion er mwyn monitro eu datblygiad

Mae undeb wedi dweud bod profion blynyddol i blant rhwng saith ac 14 yn gymaint o straen nes bod rhai'n gwrthod mynd i'r ysgol ac eraill yn gwrthod bwyta.

Yn 么l arolwg o athrawon sy'n aelodau undeb yr NUT, mae profion rhifedd a llythrennedd yn cael effaith sylweddol ar staff a phlant.

Mae'r profion mathemateg a darllen i blant saith i 14 oed er mwyn monitro eu perfformiad cyn TGAU.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod rhieni wedi croesawu'r profion.

'Plant wedi stopio bwyta'

Yn 么l NUT Cymru, mae arolwg eleni fel un y llynedd yn codi pryderon difrifol am waith ychwanegol i athrawon yn ogystal 芒'r diffyg effaith ar gyrhaeddiad.

Wrth ymateb i'r arolwg, dywedodd athrawon eu bod nhw'n poeni bod y profion yn cael effeithiau difrifol ar ddisgyblion mor ifanc 芒 saith mlwydd oed.

Dywedodd un: "(Dwi'n) bryderus iawn bod rhai o fy nisgyblion saith oed yn poeni cymaint am y profion nes eu bod nhw wedi crio, ddim isho dod i'r ysgol ac roedd un oedd wedi stopio bwyta"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai athrawon yn amau gwerth y profion

Dywedodd athro arall: "Pan gafodd y profion eu cwblhau, dydw i erioed wedi gweld eu hysbryd mor isel. Roedd cymaint o effaith arna i nes 'mod i wedi dweud wrth y pennaeth.

"Roedd y plant yn gwybod os oedden nhw wedi methu ac mi gafodd effaith arna i. Gormod o bwysau, rhy ifanc, dydy'r llywodraeth ddim yn poeni am Billy bach neu Lucy fach, maen nhw wedi dod yn ddata yn unig. Am siom."

Arolwg NUT

Casglodd yr arolwg o staff fod:

  • 96.4% yn teimlo nad oedd y profion yn brofiad positif i ddisgyblion;

  • 90.1% ddim yn credu bod y profion yn rhoi gwybodaeth newydd am ddisgyblion;

  • 82.8% yn dweud bod llwyth gwaith wedi cynyddu yn sgil y profion;

  • 87.6% ddim yn meddwl y byddai'r profion yn gwella cyrhaeddiad disgyblion;

  • 87.4% yn dweud bod y profion wedi rhoi straen ychwanegol ar ddisgyblion.

Yn 么l Swyddog Polisi NUT Cymru, Owen Hathaway, roedd yr arolwg yn edrych ar ffactorau fel llwyth gwaith a pha mor berthnasol oedd y deunydd wrth ystyried y cwricwlwm.

"Mae'n bryderus iawn bod agweddau athrawon tuag at y profion nid yn unig wedi dirywio dros y 12 mis diwethaf ond bod athrawon yn fwy beirniadol o'r polisi," meddai.

'Amau trefn'

"Mae'r cipolwg hwn yn ddarlun o broffesiwn sy'n amau trefn profion Llywodraeth Cymru, yn enwedig yn y ffordd y mae'n gwrth-ddweud ethos y cyfnod sylfaen.

"Mae athrawon wedi gweld y profion yn cael effaith negyddol ar gysylltiad gyda phlant a hefyd wedi cael anawsterau gyda rhieni o ganlyniad i'r cynllun."

Ychwanegodd fod yr undeb wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn iddo ystyried "natur a dull y profion".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod rhieni wedi croesawu'r profion

'Trylwyr'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe fyddwn yn edrych ar yr hyn mae'r undeb wedi anfon aton ni.

"Ond rydyn ni'n gwybod bod rhieni pob ystod oedran wedi croesawu'r profion.

"Y ffordd orau i sicrhau cynnydd yw sicrhau nad oes neb ar ei h么l hi.

"Felly mae angen monitro trylwyr ac asesiadau rheolaidd a dyna pam y cyflwynwyd y profion sy'n hanfodol ar gyfer codi safonau.

"Mae modd i ysgolion ddefnyddio'r wybodaeth er mwyn adnabod cryfderau disgyblion ac asesu lle mae modd iddyn nhw ddatblygu."