大象传媒

Lidl a'r Gymraeg: Adolygu polisi?

  • Cyhoeddwyd
LidlFfynhonnell y llun, Reuters

Wedi i Lidl ddweud wrth Cymru Fyw mai Saesneg yw'r unig iaith y caiff gweithwyr ei siarad yn y siop brynhawn Gwener, mae'r cwmni'n edrych eto ar ei bolisi iaith.

Brynhawn Sadwrn, fe ddywedodd llefarydd wrth Cymru Fyw y byddai'r cwmni yn hoffi "sicrhau ein staff, cwsmeriaid a'r cyhoedd ein bod ni'n adolygu ein polisiau yn gyson".

Fe ofynnodd Cymru Fyw i Lidl UK am ei bolisi iaith, wedi i ddau weithiwr yn yr Alban ddweud eu bod nhw "wedi cael eu bygwth 芒 diswyddiad" am siarad Pwyleg yn ystod seibiant.

Pan holodd Cymru Fyw beth oedd safbwynt y cwmni am yr iaith Gymraeg, fe gafwyd datganiad gan Lidl UK yn dweud mai polisi'r cwmni ydy bod y gweithwyr yn siarad yn Saesneg efo'r cwsmeriaid bob amser waeth beth fo'u hiaith frodorol.

Ychwanegodd y llefarydd bod y polisi yma yn sefyll "er budd yr holl gwsmeriaid yn ogystal 芒'r staff er mwyn sicrhau awyrgylch lle bod pawb yn teimlo'n gynwysiedig."

"Gall gweithwyr Lidl droi at famiaith y cwsmer, dim ond os nad ydy'r cwsmer yn medru siarad Saesneg."

'Ystyried yr ymateb'

Brynhawn Sadwrn, fodd bynnag, fe anfonodd Lidl UK ddatganiad o'r newydd at Cymru Fyw, yn datgan eu bod yn deall fod ieithoedd swyddogol eraill yn cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig, ac yn croesawu'r ieithoedd hynny yn eu siopau.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod yn "gofyn i weithwyr, pan yn bosib, ymateb i gwsmeriaid yn yr iaith mae'n nhw'n dymuno ei defnyddio."

Dywedodd y llefarydd eu bod yn ceisio hybu ac annog gweithwyr sy'n defnyddio sgiliau ieithyddol i helpu cwsmeriaid.

Er hyn, dywedodd fod polisi cyffredinol y cwmni i ofyn i weithwyr gyfathrebu yn Saesneg yn ystod oriau gwaith yn parhau, er mwyn "gostwng nifer camgymeriadau ac adeiladu perthynas lwyddiannus ledled y busnes".

Mynnodd y llefarydd fod gan staff hawl i ddefnyddio unrhyw iaith yn ystod seibiant, er bod y cwmni yn annog staff "i fod yn ymwybodol o'u cyd-weithwyr".

"Yn dilyn digwyddiadau diweddar, fe hoffen ni sicrhau ein staff, cwsmeriaid a'r cyhoedd ein bod ni'n adolygu ein polisiau yn gyson, ac yn ystyried yr holl ymateb sydd wedi'n cyrraedd," meddai.