大象传媒

Cara Fi... ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Llun ar garton llaeth yn ffordd o ddenu cymar?Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun ar garton llaeth yn ffordd o ddenu cymar?

Mae dynion pentref Tretarw wedi dyfeisio ffordd unigryw o ddenu gwraig yn y gyfres newydd ar S4C.

Syniad Nancy Hopkins, perchennog unig dafarn y pentref, yw i roi lluniau gw欧r sengl y pentref ar gartonau llaeth. Er fod hyn ychydig yn anarferol efallai, adeg yma'r flwyddyn mae pobl yn tueddu i edrych ar bob math o ffyrdd er mwyn denu cymar.

Mae'n debyg bod nifer y bobl sydd yn ymweld 芒 gwefannau caru ar-lein yn gallu codi 350% o gwmpas cyfnod y Nadolig.

Beth sydd bennaf gyfrifol am hyn? Wel, yn 么l seicolegwyr, ar yr adeg yma, gydag un flwyddyn yn gorffen ac un arall ar fin cychwyn, mae pobl sengl yn addunedu newid eu byd.

Setlo i lawr a dod o hyd i gymar yw'r ffordd fwyaf amlwg o lwyddo. Yn gynharach eleni mi siaradodd 大象传媒 Cymru Fyw gyda chwpl sydd wedi cael bywyd dedwydd ar 么l cwrdd ar-lein:

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cat Dafydd, Iestyn ap Dafydd a'r plant

Stori lwyddiant

Mae Iestyn ap Dafydd a Cat Dafydd wedi priodi ers bron i naw mlynedd ac erbyn hyn mae ganddyn nhw bedwar o blant. Fe wnaeth y ddau gyfarfod gyntaf yn 2004 ar 么l bod yn 'sgwrsio' ar-lein am dair wythnos trwy un o'r gwefannau dod o hyd i gymar poblogaidd.

Chwilio am gariad

Roedd Cat yn un o'r bobl benderfynodd chwilio ar y we am gymar. "Roeddwn wedi bod yn ymaelodi gyda dosbarthiadau nos a chwmn茂oedd drama amatur lleol er mwyn ceisio dod i 'nabod pobl newydd. 'Doedd dim yn gweithio. Felly ar ddechrau'r flwyddyn wnes i benderfynu bod fi bendant am dreulio gweddill fy oes gyda rhywun yn gwmni i mi, ac ymaelodais".

Prysur

I Iestyn, gweithio 60 awr yr wythnos a methu cyfarfod pobl newydd o fewn ei ardal na'i amserlen oedd y rheswm. "O'n i'n brysur fflat owt ac wedi cael llond bol ar randomness ceisio cyfarfod 芒 phobl newydd yn yr un hen lefydd a thafarndai wythnos ar 么l wythnos... hyd yn oed os oeddet ti'n gweld rhywun newydd roedd hi'n anodd dechrau sgwrs."

Delwedd

A'r stigma? Wel, ddeng mlynedd n么l roedd cyfarfod cymar ar y we yn llawer mwy anarferol nag y mae nawr. Ar y pryd roedd Iestyn yn teimlo braidd yn anghyfforddus yn dweud wrth bobl bod Cat ac ef wedi cyfarfod ar-lein, ond 'doedd Cat yn poeni dim. "Mae e jyst yn ffordd arall o gwrdd 芒 rhywun, a gan nad oedd dim arall wedi gweithio... pam lai."

Felly beth am y broses? Yn wahanol i lawer sydd efallai yn dweud rhyw gelwyddau bach am eu taldra neu bwysau a sydd yn rhoi'r llun gorau posib ar gyfer eu proffiliau, roedd Cat a Iestyn yn gwbl onest. "Dim llun, dim celwydd... beth fyddai'r pwynt?" oedd ymateb y ddau.

Pryd a gwedd?

O sgwrsio 芒'r ddau mae'n amlwg yn gyflym iawn pam maen nhw gyda'i gilydd. Mae'u hagwedd yn union 'run peth. 'Doedd 'run wedi gofyn i'r llall am eu pryd a gwedd yn ystod y tair wythnos yr oedden nhw mewn cysylltiad cyn cyfarfod wyneb yn wyneb (er bod Cat yn cyfaddef ei bod hi wedi rhoi enw Iestyn mewn porwr gwe er mwyn ceisio dod o hyd i lun ohono!).

A ble roedd y d锚t cyntaf? Pa fwyty crand?

Castell Caerffili!

D锚t delfrydol

"Roedd yn leoliad perffaith," esboniodd Iestyn "rhywle lle mae digon o bethau i s么n amdanyn nhw er mwyn torri lawr y siawns o awkward silences". Er, yn 么l Cat, mi gafodd hi'r dewis rhwng Castell Caerffili... a Techniquest!

Ac mae'r gweddill yn hanes. Felly beth yw argraffiadau'r ddau o'r broses o ddefnyddio'r we i ddod o hyd i gymar? A fydden nhw'n gwneud unrhywbeth yn wahanol o edrych yn 么l? Mae'r ddau yn bendant na fydden nhw.

Manteision

"Y peth gorau am dd锚tio ar lein," medd Iestyn "yw fod e'n rhoi'r cyfle i chi ddod i nabod eich gilydd ar led braich yn y cychwyn."

Mae Cat yn cytuno. Yn y dair wythnos roedd y ddau wedi bod yn anfon negeseuon cyn cyfarfod, roedd y ddau 芒 rhyw syniad o'u synnwyr digrifwch a chymeriad ac felly erbyn cyfarfod roedd eu perthynas eisioes wedi dechrau datblygu.

Yn 么l Cat: "Chi'n gallu dod i 'nabod rhywun yn araf ac yn ofalus cyn cyfarfod ac oherwydd fod chi'n gwybod rhywfaint amdanyn nhw, mae gyda chi bethau i siarad amdanyn nhw."

Anfanteision?

Ydy d锚tio ar-lein yn addas i bawb? Eto, mae'r ddau'n unfrydol. Pam lai?

Mae Cat a Iestyn yn gwybod am ddau b芒r arall sydd wedi cyfarfod ar-lein ac mae un o'r parau, hyd heddiw, heb gyfaddef hyn wrth neb, hyd yn oed eu rhieni!

Gwell gadael y gair olaf i anerchiad gwas priodas y ddau:

"...fel chi'n gw'bod, wnaeth Iestyn a Cat gwrdd ar-lein. Sydd yn dangos pa mor ofalus sydd rhaid i chi fod wrth brynu pethe' ar e-Bay."

Gallwch weld sut hwyl gaiff cymeriadau dychmygol Tretarw ar ddod o hyd i gymar yn

Ffynhonnell y llun, Mei Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Golygfa o'r gyfres Cara Fi