Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Fflur Dafydd
Tro Fflur Dafydd ydi hi i Ateb y Galw gan 大象传媒 Cymru Fyw yr wythnos hon. Cafodd Fflur ei henwebu gan Ynyr Roberts o'r band Brigyn.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy mamgu yn rhoi fy mrawd bach ar fy ngh么l yng nghefn y gar, ag yntau'n newydd-anedig.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
River Phoenix.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Anodd i ddewis un. Dwi'n codi cywilydd ar fy hun yn ddyddiol bron.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Yn gwylio'r ffilm Pride.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Harmoneiddio gyda phopeth - hyd yn oed s诺n y tegell yn berwi neu gloch y drws ffrynt.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Helsinki.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Yn sobor - noson serog ar Ynys Enlli. Fel arall - parti plu fy ffrind Nia yn Corc, Iwerddon. Roedd yn rhaid i bawb wisgo barf neu fwstas ffug - doedd dim peryg i ni gael hasl gan ddynion...
Oes gen ti dat诺?
Na.
Beth yw dy hoff lyfr?
The Outsider - Albert Camus. (Y cyfieithiad Saesneg o'r clasur Ffrengig, L'Etranger)
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Dim un. Dwi'n newid fy meddwl am ddillad fel y gwynt - person cyfnodau ydw i. Roedd gen i unwaith b芒r o drainers pinc 'vintage' ro'n i'n eu caru yn fwy na dim byd arall, ac ers i ni orfod ffarwelio 芒'n gilydd (wedi i fy nhad eu rhoi yn y bin am eu bod yn pydru), dwi wedi rhoi'r gorau i garu dillad.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?
About Elly, ffilm o Iran.
Dy hoff albwm?
Steve Eaves, Croendenau.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Cwrs cyntaf! Dwi'n flin iawn os yw fy nghyd-fwytawr eisiau mynd am brif gwrs yn syth. Caws gafr, pate, eog, corgimwch, cawl ag ati - dwi wrth fy modd gyda nhw i gyd. Mewn byd delfrydol mi fyddwn yn bwyta cyrsiau cyntaf trwy'r dydd.
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Does dim amser gen i i siarad yn gall gyda neb dyddiau yma, felly testun bob tro.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Stevie Wonder - hoffwn archwilio ei feddwl cerddorol anhygoel.
Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesa'?
Arwel Gildas