Methiant i benodi comisiynydd plant newydd yn 'llanast'
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib na fydd olynydd i gymryd swydd y Comisiynydd Plant yng Nghymru pan fydd y comisiynydd presennol yn camu o'r neilltu ym mis Chwefror, yn 么l gweinidogion llywodraeth Cymru.
Fis diwethaf, dywedodd y Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths, bod y broses o benodi rhywun yn lle Keith Towler wedi ei hatal oherwydd ad-drefnu yng nghabinet y llywodraeth.
Ond mae 大象传媒 Cymru yn deall bod y panel wedi methu a chytuno ar gomisiynydd newydd.
Yn 么l Ms Griffiths, bydd y swydd yn cael ei hysbysebu yn "fwy eang", ond mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod y broses yn "llanast".
Bydd Mr Towler yn gadael y swydd ar Chwefror 28.
Wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan lefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg, Angela Burns, dywedodd Ms Griffiths y byddai'r broses benodi yn cael ei gwblhau "yn gynnar yn y flwyddyn newydd".
"Os fydd y comisiynydd newydd ar gael i ddechrau'r swydd ar Fawrth 1, mae hynny'n dibynnu ar amgylchiadau unigol," meddai.
Ychwanegodd y byddai'r dirprwy gomisiynydd, Eleri Thomas yn gwneud y swydd dros dro os oedd angen.
Mae'r gweinidog wedi dweud bod y swydd wedi ei hysbysebu "ar rwydweithiau o fewn Cymru ac yn fwy cyfyngedig dros y DU".
Ond y tro hwn dywedodd y byddai'r swydd yn cael ei hyrwyddo yn "fwy eang" er mwyn sicrhau "ein bod yn denu'r ystod fwyaf eang o ymgeiswyr ac sy'n bosib".
Yn 么l Ms Burns mae hynny gyfystyr a chyfaddef bod y broses recriwtio gyntaf "ddim yn agos at fod mor helaeth a manwl ag y dylai".
"Am y tro cyntaf, mae'r gweinidog wedi cyfaddef na fydd y comisiynydd plant newydd yn y swydd cyn i'r hen un adael.
"Mae hynny'n llanast sy'n amlwg wedi ei achosi gan fethiant llywodraeth Lafur i wneud y broses yn iawn."
Ychwanegodd bod swydd y comisiynydd "o bwys enfawr wrth flaenoriaethu ein pobl ifanc a sicrhau bod gyda nhw lais".
Mae hi wedi galw ar Carwyn Jones i ymddiheuro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2014