大象传媒

Cyngor y Celfyddydau yn trafod grantiau

  • Cyhoeddwyd
drama
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Cyngor y Celfyddydau yn penderfynu pa gwmniau fydd yn derbyn nawdd gyhoeddus

Fe fydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cwrdd yn Llanelli ddydd Gwener i drafod strategaeth fydd yn penderfynu pa gwmn茂au all dderbyn nawdd cyhoeddus dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd y cwmn茂au yn clywed yn yr haf os ydyn nhw'n rhan o'r cynllun newydd.

Bob pum mlynedd mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad o'u buddsoddiadau - yn 2010 fe gollodd 32 o gwmn茂au eu nawdd blynyddol, yn rhannol neu yn llawn.

Roedd eraill wedi llwyddo i ennill cefnogaeth gyson y Cyngor am y tro cyntaf. Maen nhw ymhlith y 69 o gwmn茂au sy'n rhannu 拢27.7m y flwyddyn.

Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni sy'n derbyn y gyfran uchaf o gyllid y Cyngor - 拢4.6m eleni. Mae'r Opera hefyd yn derbyn 拢6.3m gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, gan fod y cwmni yn teithio'n gyson i ddinasoedd dros y ffin.

Ond serch y miliynau o fuddsoddiadau cyhoeddus, mae llwyfannu oper芒u yn gostus tu hwnt.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r Opera Genedlaethol wedi gorfod colli staff, a chodi 拢2m gan noddwyr preifat, ynghyd a'r grantiau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae National Theatre Wales ymysg y 69 corff sy'n derbyn arian gan y cyngor

Mae'r cadeirydd, Geraint Talfan Davies, yn poeni bod toriadau i'r celfyddydau yn golygu mai diwylliant Cymru sydd ar golled yn y pen draw.

"Os ydyn ni am gael economi a chymdeithas greadigol, mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn y celfyddydau. Mae'n rhaid gwneud yn sicr bod y creadigrwydd yna yn cael ei ymestyn, yn enwedig trwy ein hysgolion ni a thrwy ein cymdeithas ni. Dyna'r ffordd rydyn ni'n mynd i ffynnu fel cymdeithas."

Ymhlith y 32 o gwmn茂au i golli arian ar 么l yr adolygiad yn 2010 oedd cwmni theatr Spectacle, sy'n gweithio yng nghymoedd y de.

Dyfal barhau

Mae'r cwmni wedi parhau, er gwaetha'r toriadau, yn 么l Carys Parry sydd wedi gweithio i Spectacle am 12 mlynedd.

"Fe wnaeth e ergydio'r cwmni yn fawr iawn. Dydyn ni ddim yn gallu cynnal pedwar cynhyrchiad y flwyddyn - un cynhyrchiad ry'n ni'n gwneud nawr," meddai.

"Ond o ran beth rydyn ni'n gwneud fel cwmni, a'r fath o waith ry'n ni'n gwneud, dwi ddim yn si诺r fod e wedi ergydio ar hwnna.

"Rydyn ni'n dal i neud yr un fath o waith yn y cymunedau, ond mae'r ffordd ry'n ni'n gweithio nawr efallai'n wahanol."

Prynhawn yma fe fydd strategaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn cael ei benderfynu. Mae disgwyl bydd y cynllun yn rhoi gofyn ar gwmn茂au i ennill incwm ar wah芒n i'r nawdd cyhoeddus.

Dim ond dechrau'r broses yw'r cyfarfod, ni fydd y cwmn茂au'n clywed eu tynged o dan y drefn newydd tan yr hydref y flwyddyn nesaf.