Côr Blimey!
- Cyhoeddwyd
Mae cystadleuaeth ´óÏó´«Ã½ Choir of the Year eleni yn 30 oed, a'r flwyddyn hon roedd dau gôr o Gymru yn y rownd derfynol. Llio Rhys o Gôr CF1 sydd yn rhannu ei hargraffiadau o'r diwrnod. Oedd o'n ddiwrnod llwyddiannus?
Ffrog Ddu? Check
Sgidiau Pinc? Check
Boliau llawn pili palas? Bendant!
8.00: Mae 8am ddydd Sul braidd yn gynnar i fod ar fws yn teithio i Fanceinion, ond dyma ni, bron i hanner cant o aelodau Côr CF1 ar y ffordd i gystadlu yn rownd derfynol ´óÏó´«Ã½ Choir of the Year yn gynnwrf ac yn nerfau ac yn la-la-las i gyd.
Dechreuodd ein siwrne yn y gystadleuaeth hon nôl ym mis Mawrth, gyda rownd ym Mryste ac rydyn ni bellach yn un o 6 chôr sydd yn y rownd derfynol yn Bridgewater Hall. Mae'r corau yn dod o amgylch Prydain, ac eleni mae dau gôr o Gymru â'r siawns o ennill y brif wobr - ni a Chôr Iau Ysgol Glanaethwy.
Rydyn ni wedi bod yn ymarfer yn ddiwyd ers misoedd, a bellach, mae'r diwrnod mawr wedi cyrraedd.
13.00: Rydyn ni wedi cyrraedd y neuadd ac yn cael cyfle i newid i'n gwisgoedd - tuxes i'r hogiau, ffrogiau du a sgidiau pinc i ni. Mae'r stafell yn llawn panics torri labeli oddi ar siwtiau newydd a gwisgo'r teits anghywir a'r awyr yn llawn powdwr wyneb ac aftershave (yr hogiau yn trio creu argraff ar un o gyflwynwyr y rhaglen, Josie D'arby, efallai?!). Ar ôl hyn, byddwn ni'n cael cyfle i gynhesu ein cyrff a'n lleisiau, y naill yr un mor bwysig â'r llall.
15.15: Rydyn ni wedi cael soundcheck ar y llwyfan a sicrhau ein bod ni'n gwybod lle mae pawb yn sefyll - mae'r llwyfan llawer llai na'r disgwyl, felly mae'r rhaid ceisio osgoi hitio'n erbyn ein gilydd pan 'da ni'n gwneud ein 'mŵfs' - dim byd rhy heriol, 'da chi'n dallt - byddai ambell i aelod o'r côr yn cael trafferth mawr gwneud unrhywbeth mwy cymhleth na 'chydig o glapio (dwi'n enwi neb…!).
Mae'n debyg na fyddwn ni'n gweld rhyw lawer ar y corau eraill cyn y gystadleuaeth ei hun - dwi ddim yn siŵr os ydi trefnwyr y gystadleuaeth yn poeni y byddai cythraul canu yn mynd yn drech 'na ni... Mae Lois, sydd yn canu efo ni, wedi cael cyfle i weld Gwenllian, ei merch bedydd, sydd yn canu efo Glanaethwy, ac mae'n braf gweld fod y ddau gôr yr un mor gefnogol o'i gilydd - mae pawb yn awyddus i gôr o Gymru ennill!
17.00: Rydyn ni'n eistedd yn yr awditoriwm ac mae'r gystadleuaeth yn dechrau. Ni sy'n cloi, felly rydyn ni'n cael clywed y corau eraill yn perfformio.
Mae Côr Iau Ysgol Glanaethwy yn wych, ac yn cael llawer o ganmoliaeth gan y beirniaid - yn enwedig gan fod eu rhaglen yn cynnwys rhyw 4 neu 5 iaith wahanol, a'u hynganu yn wych! Mae baneri draig goch eu cefnogwyr yn cwhwfan a'r cymeradwyo yn fyddarol. Mae safon y gystadleuaeth yn uchel iawn… bydd rhaid i ni fynd amdani!
20.00: Rydyn ni newydd ganu, ac am wefr! Mwynheais i hynny'n fawr iawn ac mae'r holl gôr wedi cyffroi, gan ein bod ni'n gwybod ein bod ni wedi canu ein gorau glas. Cawson ni sylwadau cadarnhaol iawn gan y beirniaid, felly does dim i'w wneud nawr ond aros… gobeithio fydd ddim rhaid i ni aros yn rhy hir.
21.00: Ni ydi enillwyr Choir of the Year 2014! Alla i ddim credu'r peth! Rydyn ni i gyd wrth ein boddau ac yn gweiddi a sgrechian a chrio a gafael yn ein gilydd.
Côr CF1 ydi'r côr cyntaf o Gymru i ennill y wobr hon yn holl hanes y gystadleuaeth a rydw i mor falch o'r fraint honno, o gofio cystal corau sydd yn ein gwlad fach ni. Rydyn ni wedi gweithio mor galed ac mae pawb â gwên fawr ar eu hwynebau.
Mae ganddo ni siwrne hir, ond hapus iawn yn ôl i Gaerdydd - ond gyntaf, dwi'n mynd i'r bar i ddathlu…