Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Heddlu'n lansio ymgyrch yn erbyn alcohol a thrais
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn lansio ymgyrch yn erbyn trais sydd wedi ei achosi gan alcohol gyda chymorth un a ddioddefodd ymosodiad arswydus.
Bu Paul Pugh o Rydaman mewn coma am fwy na chwe wythnos wedi ymosodiad cwbl annisgwyl a heb reswm yn Ionawr 2007, pan oedd ar noson allan gyda rhai o b锚l-droedwyr Cwmaman United.
Wrth adael tafarn fe ymosododd pedwar o ddynion ar y chwaraewyr a chafodd Mr Pugh ei daro'n anymwybodol i'r llawr.
Bu raid i Mr Pugh ddysgu sut i gerdded a siarad eto ac ni fydd byth yn gwella'n llwyr o'i anafiadau.
Er gwaethaf hyn mae am ddefnyddio'u brofiadau i ymgyrchu yn erbyn trais ac alcohol.
'Dim rheswm'
Dywedodd: "Dydw i ddim am weld unrhyw un yn y byd yn dioddef fel yr ydym ni.
"Mae fy nheulu, fy ffrindiau, Cwmaman Utd a'r gymuned i gyd wedi cael eu heffeithio gan yr ymosodiad diachos ac erchyll wnaeth fy ngadael o fewn modfedd o golli fy mywyd am ddim rheswm.
"Fy nghyngor i i bobl sydd yn mynd allan ac yfed yw i wybod pryd i stopio ac edrych ar 么l eich gilydd.
"Rhowch eich ffrindiau mewn tacsi os oes angen a pheidiwch gadael neb ar ben ei hun achos mae 'gangs' yn targedu pobl sydd ar eu pennau eu hunain, nid grwpiau."
Dywedodd mam Mr Pugh, Nesta, ei bod yn gobeithio y byddai'r ymgyrch newydd yn gwneud lles i bobl.
"Rydyn ni wedi bod mewn ysgolion, colegau a chlybiau rygbi ac mae Paul wedi bod yn siarad am ei brofiad a phobl i gyd yn gwrando'n astud arno.
"Mae'n fodlon siarad gydag unrhyw un er mwyn treial stopio beth ddigwyddodd iddo fe rhag digwydd i rywun arall.
"'Sdim byd yn bod gyda mynd allan a mwynhau eich hunain, ond dim mynd dros ben llestri," meddai.
Fel rhan o'r ymgyrch, mae Mr Pugh wedi ffilmio rhaglen ddogfen 15 munud, sy'n dechrau gyda'r alwad 999 a wnaed i'r gwasanaethau brys ar 么l yr ymosodiad.
Yn defnyddio lluniau teledu cylch cyfyng, mae'r ffilm yn ei ddangos yn mynd i mewn i dafarn yr Old Cross Inn gyda ffrindiau o'i d卯m p锚l-droed Cwmaman FC, a gadael ar ei ben ei hun cyn cael ei amgylchynu gan yr ymosodwyr.
'Hynod o ddewr'
Nid yw'r ffilm yn dangos yr ymosodiad yn glir - mae wedi cael ei ryddhau gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin a Heddlu Dyfed-Powys yn 么l dymuniadau Mr Pugh, a bydd yn cael ei ddangos mewn ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid ar draws Sir Gaerfyrddin fel rhan o'r ymgyrch.
Dywedodd y Cynghorydd Pam Palmer, Cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin: "Mae Paul yn parhau i fod yn hynod o ddewr, ac mae'n destament i'w gymeriad cryf ei fod yn defnyddio ei ddioddefaint i helpu eraill.
"Mae ei neges yn syml - cerddwch i ffwrdd, meddyliwch ddwywaith.
"Ni ddylai unrhyw un fynd drwy'r hyn y mae Paul a'i deulu wedi dioddef. Dylai pob un ohonom gymryd y cyfle hwn i wneud addewid i beidio byth 芒 goddef trais nac ymddygiad ymosodol."