Ffosil prin wedi ei ddarganfod ar draeth ym Mhenarth
- Cyhoeddwyd
Mae heliwr ffosilau wedi darganfod sgerbwd hynafol ar draeth yn Ne Cymru.
Daeth Jonathan Bow, 34, o hyd i'r ffosil saith troedfedd o hyd wrth iddo gerdded ar hyd y traeth yn ardal Penarth.
Mae Amgueddfa Cymru wedi disgrifio sgerbwd yr ichthyosaur - math o ymlusgiad oedd yn byw yn y m么r - fel un pwysig am fod y sgerbwd i'w weld yn gyfan.
Mae ffosilau arall o'r cyfnod Jwrasig wedi cael eu darganfod yn yr ardal, yn dyddio yn 么l 200 miliwn o flynyddoedd.
'Eithriadol o brin'
Y gred yw bod yr ichthyosaur olaf wedi marw tua 25 miliwn o flynyddoedd cyn i'r deinosoriaid i gyd gael eu lladd.
Dywedodd Mr Bow y buasai unrhyw un wedi gallu darganfod y ffosil, ac mai darn o graig modfedd o hyd wnaeth ddal ei sylw ym mis Medi.
"Mae rhywbeth mor fawr a chyfan a hyn yn ddarganfyddiad eithriadol o brin," meddai Mr Bow, rhaglennwr cyfrifiadurol o Abertawe.
Cymerodd ddiwrnod llawn i Mr Bow a'i frawd i dynnu'r ffosil, sy'n pwyso tua 60 kilogram, o'r ddaear.
Roedd rhaid cael gwared 芒'r garreg o amgylch y ffosil i allu gweld ei wir werth, ac yna rhoddodd wybod i'r amgueddfa.
'Darganfyddiad hynod o bwysig'
Mae Mr Bow hefyd wedi darganfod rhan o 锚n plesiosaur ers iddo gymryd diddordeb yn y maes nifer o flynyddoedd yn 么l.
Dywedodd Cindy Howells, rheolwr Adran Daeareg Amgueddfa Cymru, bod y ffosil yn "ddarganfyddiad a allai fod yn hynod o bwysig" am iddo fod yn gyflawn.
Dywedodd Ms Howells fod penglogau tebyg wedi cael eu darganfod yng Nghymru yn y gorffennol ond mai dyma'r un cyflawn cyntaf, er bod gweddillion eraill cyflawn wedi cael eu darganfod mewn mannau eraill.