Corff cynghorau'n rhybuddio am alcohol anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n cynrychioli cynghorau lleol wedi dweud eu bod yn poeni am iechyd pobl oherwydd alcohol anghyfreithlon fydd yn cael ei werthu dros y Nadolig.
Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol fod cannoedd o boteli o alcohol anghyfreithlon eisoes mewn siopau.
Maen nhw wedi cyfeirio at achos yn y Barri yn gynharach eleni pan gafodd perchennog siop ddirwy am werthu fodca yr oedd ef ei hun wedi ei brynu o gefn fan.
Mae'r mudiad yn cynrychioli dros 400 o gynghorau lleol yng Nghymru a Lloegr ac wedi dweud bod alcohol anghyfreithlon yn aml yn cynnwys hylif fel isopropanol sy'n gallu lladd.
'Niwed parhaol'
"Mae diodydd o'r fath nid yn unig yn anghyfreithlon ond yn gallu achosi niwed parhaol neu hyd yn oed ladd," meddai Ann Lucas o'r mudiad.
"Fel arfer, gangiau proffesiynol sy'n eu cynhyrchu ...
"Dylai unrhyw un sy'n meddwl ei fod wedi prynu diod anghyfreithlon gysylltu 芒'r cyngor lleol ar frys."
Fel arfer, yr arwyddion yw camsillafu enw gwlad, print o safon isel, labelau anghyffredin fel "fodca o'r Eidal", manylion mewnforio amwys a photeli wedi eu llenwi i lefelau gwahanol.