大象传媒

Cynnydd mewn canser yr ysgyfaint ymysg merched

  • Cyhoeddwyd
Pelydr XFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ymchwil yn awgrymu mai Cymru sydd efo'r drydedd gyfradd uchaf o ganser yr ysgyfaint ymysg merched yn Ewrop.

Mae adroddiad newydd yn rhybuddio bod nifer yr achosion o ganser yr ysgyfaint ymysg merched yng Nghymru yn "cynyddu'n gyflym".

Dros gyfnod o 10 mlynedd rhwng 2003-2012, mae nifer y dynion sy'n datblygu canser yr ysgyfaint wedi parhau'n gyson, ond mae nifer y merched sy'n datblygu'r afiechyd wedi cynyddu dros draean.

Bellach canser yr ysgyfaint yw'r ail ganser mwyaf cyffredin ymysg merched yng Nghymru - gyda 1,121 o ferched yn derbyn diagnosis yn 2012, o'i gymharu ag 825 yn 2003.

Mae'r ymchwil yn awgrymu mai Cymru sydd efo'r drydedd gyfradd uchaf o ganser yr ysgyfaint ymysg merched yn Ewrop erbyn hyn, gyda phensiynwyr yn arbennig yn cael eu heffeithio.

Yn hanesyddol mae nifer y dynion sy'n dioddef o ganser yr ysgyfaint wedi bod yn uwch na nifer y merched.

Ond mae'r ymchwil gan Uned Deallusrwydd a Gwyliadwraeth Canser Cymru yn rhybuddio bod y cynnydd mawr yn nifer yr achosion ymysg merched yn golygu bod y cyfraddau ymhlith y ddau ryw bron yn gyfartal erbyn hyn.

36 diagnosis yr wythnos

Yn 么l yr ymchwil, mae'r cynnydd yn adlewyrchu arferion ysmygu yn yr 1970au, 80au a 90au.

Dyma'r cyfnod pan roedd ysmygu ar ei fwyaf poblogaidd ymysg merched yng Nghymru.

Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu bod y broblem yn llawer gwaeth yn yr ardaloedd tlotaf yng Nghymru.

Ym Merthyr Tudful mae'r gyfradd uchaf o achosion o ganser yr ysgyfaint - mae 87% yn uwch na'r gyfradd yn yr ardal gyda'r nifer lleiaf o achosion, sef Sir Fynwy.

Dywed yr adroddiad bod nifer yr achosion 27% yn uwch yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru.

Mae modd trin canser yr ysgyfaint os caiff ei ddarganfod yn ddigon cynnar, ond yn 么l yr adroddiad, dim ond 12% o bobl sy'n ymweld 芒 meddyg mewn da bryd.

Wrth siarad ar raglen Y Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru fore Mawrth, dywedodd Dr Dyfed Wyn Hughes, Cyfarwyddwr Uned Deallusrwydd a Gwyliadwraeth Canser Cymru y bydd y cynnydd mewn niferoedd yr achosion mewn menywod yn cynyddu yn y dyfodol:

''Ry' ni'n darogan y bydd y ffigyrau yn dal i gynyddu am rhai blynyddoedd - dydyn ni ddim wedi gweld y mwyaf o achosion mewn menywod eto. Allwn ni ddim newid beth oedd y gyfradd ysmygu sawl degawd yn 么l ond beth mae hyn yn ei ddangos yw i fod yn wyliadwrus o symptomau mewn menywod'', meddai.

Ychwanegodd Dr Hughes: ''Mae hefyd yn ein rhybuddio ni fod mwy i'w wneud gyda chyfraddau ysmygu heddiw. Mae cyfraddau wedi dod i lawr ond mae pell dros 20% yn dal i ysmygu yng Nghymru o hyd ac yn uwch mewn rhai ardaloedd neu grwpiau mewn cymdeithas, ond mae gwledydd fel Sweden ag Awstralia gyda chyfraddau yn bell o dan 20% felly mae'n bosib lleihau hyn eto.''

'Angen codi ymwybyddiaeth'

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Joseph Carter, Pennaeth Sefydliad Ysgyfaint Prydain yng Nghymru: "Canser yr ysgyfaint yw'r canser sy'n lladd y nifer fwyaf o bobl yng Nghymru. Mae'n afiechyd sydd wedi'i esgeuluso ym Mhrydain am lawer rhy hir, ac mae hi'n dorcalonnus ei fod bellach yn gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau y mae modd eu hosgoi ymysg merched.

"Dim ond 7% o bobl yng Nghymru fydd yn byw hyd at 5 mlynedd wedi iddyn nhw dderbyn diagnosis o ganser yr ysgyfaint. Mae angen codi ymwybyddiaeth o ganser yr ysgyfaint ar fyrder, er mwyn i bobl allu adnabod y symptomau'n gynharach a gwella'r siawns o oroesi'r afiechyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn, sy'n rhoi gwybodaeth bwysig yngl欧n 芒 chanser yr ysgyfaint yng Nghymru. Mae canser yr ysgyfaint yn flaenoriaeth, a bydd y wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu rhaglen waith er mwyn gwneud gwelliannau i'r drefn o dderbyn diagnosis a thriniaeth yng Nghymru.

"Rydym eisoes yn gwneud ymdrech sylweddol yng Nghymru i fynd i'r afael ag effeithiau ysmygu, a hynny drwy ein Cynllun Gweithredu ar Reoli Tybaco a'n Mesur Iechyd y Cyhoedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol