大象传媒

'Pont' ym Mlaenau Gwent yn help i ddiogelu'r dyfrgi

  • Cyhoeddwyd
OtterFfynhonnell y llun, Andy Karran
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer y deargwn ar gynnydd

Mae elusen bwyd gwyllt wedi codi pont arbennig ym Mlaenau Gwent er mwyn atal dyfrgwn rhag gorfod croesi ffordd brysur.

Nod y bont yw lleihau nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu lladd gan geir wrth geisio croesi ffordd yn Abertyleri.

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent sy'n cydlynu'r cynllun, sy'n rhan o gynllun ehangach i ddod o hyd i ardaloedd lle mae'r anifail yn wynebu peryglon.

Cafodd tua 700 o ddyfrgwn eu lladd yn ne Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Mae dyfrgwn yn teithio yn bell ond mae'n well ganddynt redeg wrth ymyl glan yr afon yn hytrach na nofio," meddai swyddog cadwraeth yr Ymddiriedolaeth Sorrel Jones.

Mae afonydd mwy glan a chyflenwadau digonol o bysgod yn golygu fod poblogaeth y dyfrgwn wedi cynyddu yng nghymoedd y de.

Un o'r prif fygythiadau maen nhw nawr yn ei wynebu yw'r car - a hynny'n enwedig yn y nos pan mae'r anifail fwyaf bywiog.

"Mae pont neu lwybr fel hyn yn rhoi ffordd arall iddynt ddilyn yr afon, a hynny drwy osgoi ceir," meddai Mr Jones.

Ffynhonnell y llun, Gwent Wildlife Trust
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r elusen yn gobeithio bydd y llwybr neu 'bont' yn diogelu'r deargwn

Hefyd gan y 大象传媒

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol