大象传媒

拢1.5m i Draphont Dd诺r Pontcysyllte

  • Cyhoeddwyd
Traphont Dd诺r PontcysyllteFfynhonnell y llun, 大象传媒, Akke Monasso
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer yr ymwelwyr i'r safle wedi cynyddu ers iddo gael ei wobrwyo 芒 statws safle Treftadaeth y Byd yn 2009

Gall dros 拢1.5 miliwn gael ei wario i ddenu ymwelwyr i safle Traphont Dd诺r Pontcysyllte ger Wrecsam.

Mae cynllun ar gyfer y tair i 10 mlynedd nesaf wedi cael ei ddylunio gan ymgynghorwyr a gomisiynwyd gan Gyngor Wrecsam a'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

Mae'r awgrymiadau yn cynnwys caffi newydd a phlatfform golwg i ymwelwyr, yn ogystal 芒 maes parcio estynedig.

Bydd cynghorwyr o Gyngor Wrecsam yn cyfarfod i drafod sut y bydd y 拢1,580,904 yn cael ei ariannu.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher, canolbwynt y drafodaeth fydd y cynnig i godi t芒l i barcio ar y safle ac i ddefnyddio'r cyfleusterau toiledau yno.

Mae'r AS dros Dde Clwyd, Susan Elan Jones, yn croesawu'r adroddiad:

"Y peth pwysig i'w wneud nawr yw sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gynyddu'r amser mae pobl yn treulio yma."

Mae nifer yr ymwelwyr i'r safle wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ers i'r draphont dd诺r gael ei wobrwyo 芒 statws safle Treftadaeth y Byd yn 2009.

Er hynny, mae'r adroddiad yn dweud bod ymwelwyr yn gadael o fewn awr o gyrraedd ar gyfartaledd.