Cynghorwyr i wrthod pecyn diswyddo?
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru a Llafur yn Sir Gaerfyrddin wedi dweud y byddan nhw'n gwrthwynebu rhoi unrhyw d芒l diswyddo i brif weithredwr y cyngor, Mark James.
Daw hyn yn sgil adroddiadau yn y wasg y gallai dderbyn pecyn ariannol gwerth bron i 拢440,000.
Mae Mr James wedi gwneud cais i adael yr awdurdod o dan gynllun diswyddo.
Byddai unrhyw becyn diswyddo yn cynnwys taliadau pensiwn.
Mae'r pecyn diswyddo o hyd at 拢440,000 yn un o ddeg opsiwn honedig sydd yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.
Mae aelod seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Jonathan Edwards wedi disgrifio'r ffigwr o 拢440,000 yn un "gwarthus" ac na ddylai ceiniog o arian trethdalwyr gael ei wario ar becyn diswyddo.
Mae'r cynghorydd Llafur Calum Higgins wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru y bydd ei gr诺p ef - sydd yn rheoli'r cyngor mewn clymblaid a'r gr诺p annibynnol - hefyd yn gwrthwynebu'r defnydd o arian cyhoeddus ar gyfer tal diswyddo i Mr James.
Mae 大象传媒 Cymru wedi gofyn i'r cyngor sir am ymateb.
Ymchwiliad Heddlu
Y llynedd, fe benderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru fod cynghorau Caerfyrddin a Phenfro wedi gweithredu'n anghyfreithlon drwy adael i Mr James ynghyd 芒 phrif weithredwr Cyngor Sir Penfro, Bryn Parry Jones, ac uwch swyddog arall ddewis peidio cymryd rhan mewn cynllun pensiwn a derbyn taliadau arian parod yn lle hynny.
Fe wnaeth ymchwiliad gan yr heddlu benderfynu nad oedd yna unrhyw weithred droseddol wedi digwydd.
Fe gamodd Mr James i'r neilltu yn ystod ymchwiliad yr heddlu, cyn dychwelyd i'w waith ym mis Mai.
Ym mis Medi fe wnaeth y cyngor gadarnhau fod cais ar gyfer diswyddo wedi ei dderbyn.
Yn 么l y cyngor, mae'r cais yn cael ei ystyried "ochr yn ochr 芒'r oddeutu 360 o ddatganiadau o ddiddordeb eraill sydd wedi eu derbyn gan staff hyd yma".
Mae Mr James yn parhau yn ei swydd wrth i'r cais gael ei ystyried.
Ym mis Hydref fe wnaeth cynghorwyr Sir Benfro bleidleisio o blaid cynnig pecyn diswyddo i'r prif weithredwr, Mr Parry-Jones.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2014
- Cyhoeddwyd6 Mai 2014
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014