Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Er gwell, er gwaeth!
Ydych chi'n llawn rhamant ac yn dathlu Dydd Santes Dwynwen? Mae Cymru Fyw wedi mynd i ysbryd g诺yl nawddsant y cariadon a chael cipolwg ar hanes cariadus rhai o gyplau adnabyddus Cymru:
Wel yn anffodus, does dim llun priodas gyda Maureen Rhys a John Ogwen gan fod eu holl luniau priodas wedi eu dwyn!
"Roeddwn i wedi storio'r lluniau mewn hen g锚s mewn t欧 yn Sir F么n, gan ein bod ni'n symud o Gaerdydd i Fangor. Tua 1976 oedd hi ac mi dorrodd rhywun mewn i'r t欧 a dwyn y c锚s, felly does dim llun priodas gyda ni a cafodd llawer o luniau'r plant eu dwyn hefyd!"
Ond os yw hanes y lluniau'n ddramatig, mae hanes sut ddaeth John a Maureen at ei gilydd yr un mor ddramatig. Meddai Maureen:
"Roedden ni'n 'nabod ein gilydd i ddweud helo gan fod ni'n dau'n astudio drama yng Ngholeg Bangor o dan John Gwilym Jones. Ond gymerodd hi berfformiad o addasiad Cymraeg o ddrama John Osborne Look Back in Anger i ni ddod at ein gilydd fel petai.
Peltan a chusan
"Roedd y ddau ohonon ni'n aelodau o gast 'Cilwg yn 脭l', ond gan fod na ddau gast gwahanol ar gyfer gwahanol berfformiadau, roeddan ni ar wah芒n am y rhan helaeth o'r perffomiadau. Ond, roeddan ni yn digwydd bod yn yr un cast am dair noson, ac roedd fy nghymeriad i fod i roi peltan i gymeriad John, a wedyn ei gusanu. A dyna pryd wnaeth o ddigwydd!"
Fe wnaeth Hywel Wigley, sylfaenydd , gyfarfod 芒'i ddarpar wraig, y delynores Catrin Finch, mewn lleoliad rhamantus iawn:
"O'n i'n gweithio i gwmni Hon o Aberystwyth ac yn recordio Catrin yn perfformio yn eglwys Llandanwg, Harlech. Mae'n hen eglwys sy'n dyddio'n wreiddiol o'r bumed ganrif ac sy'n gorwedd bron ar y traeth yng nghysgod Castell Harlech. Mae'n eglwys fach arbennig iawn gydag awyrgylch hyfryd."
Ond er taw yn Harlech y gwnaethon nhw gyfarfod gyntaf, roedd lleoliad y d锚t cyntaf ychydig mwy ecsotig, fel aeth Hywel ymlaen i esbonio:
Mynd yn 么l i briodi
"Wnes i lwyddo i blagio camera a'r cyfle i recordio Catrin yn perfformio yn '92nd Street Y' yn Efrog Newydd yn 2001 a dyna lle wnaethon ni ddechrau mynd allan gyntaf, ond dim ond un lle allen ni fod wedi dewis ar gyfer priodi, sef yn 么l i Harlech a hen eglwys Llandanwg."
Cerddoriaeth ddaeth a Cefin a Rhian Roberts, sylfaenwyr at ei gilydd hefyd. Yn 么l Cefin:
"Cyfarfu Rhian a finna tra'n cystadlu mewn eisteddfodau lleol. Dwi'n ama' mai yn Eisteddfod Sir yr Urdd y gwelais i Rhian gynta' yn canu mewn parti unsain! Yna, yn nes ymlaen, roeddan ni'n aelodau o G么r Sir Gaernarfon efo'n gilydd ac yna fe gychwynon ni ganu deuawdau!"
Yn y gwaith y gwnaeth y cyflwynwyr Rhodri a Lucy Owen gyfarfod. Er i Rhodri gyfarfod 芒 Lucy nifer o weithiau, dyw Lucy ddim yn eu cofio nhw! Y tro cyntaf mae'r ddau'n cytuno fod nhw wedi siarad oedd yn ystafell golur HTV yng Nghaerdydd. Meddai Rhodri, sy'n cyflwyno 'Pnawn Da' ac yn cyd-gyflwyno 'X-Ray' gyda'i wraig:
"Roedd Lucy mewn llond pen o curlers yn paratoi i ddarllen y newyddion a roeddwn ni'n gweithio ar y gyfres gomedi 'Y Rhaglen Wirion 'Na' ac felly wedi gwisgo mewn Sumo suit. Dechreuon ni siarad achos oedd 'da ni'r un math o gar.
"Wnaethon ni gyfarfod eto mewn parti rai misoedd wedyn a dechrau siarad wrth y bar. Tair awr a hanner yn hwyrach, roedden ni'n dal yna!"