Dedfrydu dynion am hela moch daear yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi eu dedfrydu am geisio cymryd, niweidio neu ladd moch daear yn Sir y Fflint.
Roedd Leighton Shiers, 19 a William Chrystal o Kirkby yn Lerpwl wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad mewn gwrandawiad cynharach.
Cafodd y ddau eu harestio wedi i'r heddlu eu darganfod mewn cae yn Nhrelawnyd ger Treffynnon ym mis Ebrill 2014. Rhedodd tri unigolyn arall i ffwrdd ac nid ydynt wedi cael eu dal.
Daeth yr heddlu o hyd i'r dynion gyda ch诺n hela moch daear, rhawiau, cerbyd gyriant pedair olwyn a dyfais GPS ar goleri'r c诺n oedd wedi eu hel o dan y ddaear i chwilio am y moch daear.
Dywedodd Peter Humphrey-Jones ar ran yr erlyniad yn Llys Ynadon y Fflint fod twll y moch daear yn ymddangos fel un lle'r oedd moch daear yn byw ar y pryd.
Roedd lluniau ar ffonau symudol y dynion o g诺n yn hela ac ymosod ar foch daear.
Cafodd y dynion eu dedfrydu i wneud 160 awr o waith cymunedol yn ddi-d芒l gan y barnwr Gwyn Jones.
Dywedodd y barnwr fod y cynllun wedi bod yn un soffistigedig oedd wedi ei gynllunio'n drylwyr, ac yn dangos diddordeb afiach mewn niweidio moch daear.
Cafodd y diffynyddion eu gorchymyn i dalu 拢300 yr un mewn costau.