大象传媒

'Perygl' talu i wylio'r Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Chwe GwladFfynhonnell y llun, Getty Images

Byddai gorfod talu am yr hawl i wylio pencampwriaeth rygbi'r Chwe Gwlad yn ''beryglus dros ben i'r 'psyche' Cymraeg'', meddai'r gweinidog sydd yn gyfrifol am chwaraeon yn Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ken Skates AC wrth 大象传媒 Radio Wales ddydd Iau fod angen cael cydbwysedd rhwng elw a chyfraniad y gynulleidfa i'r gamp.

Dywedodd John Feehan, prif weithredwr pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ei fod yn fodlon cysidro pob opsiwn ar gyfer y cytundeb darlledu nesaf.

Mae'r cytundeb hawliau presenol gyda'r 大象传媒 yn dod i ben yn 2017.

Hawliau darlledu

Wrth ymateb i gwestiwn am y posibilrwydd o werthu hawliau darlledu'r gystadleuaeth i gwmni talu-am-wylio, dywedodd Mr Skates: ''Dwi'n meddwl y byddai'n beth peryglus dros ben i'r 'psyche' Cymraeg.

''Mae'n rhan o'n diwylliant i gael y Chwe Gwlad am ddim - pam peryglu'r gystadleuaeth yn y ffordd yma?''

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, y dylai'r gemau barhau am ddim ar y teledu, gan ddisgrifio'r Chwe Gwlad fel un o berlau chwaraeon Prydain.

Er nad ydi darlledu wedi ei ddatganoli, fe fu dadleuon tebyg gan weinidogion y llywodraeth ym Mae Caerdydd yn 2009 hefyd.

Galwodd Rhodri Morgan, y Prif Weinidog ar y pryd, ar lywodraeth San Steffan i sicrhau fod y Chwe Gwlad yn cael eu dangos yn fyw ar deledu di-loeren.