Cymry'n curo canser
- Cyhoeddwyd
Mae'r digrifwr a chyflwynydd 大象传媒 Radio Cymru, Tudur Owen wedi datgelu ei fod wedi cael triniaeth am ganser y prostad.
Bydd nifer o elusennau yn codi ymwybyddiaeth am y gwahanol fathau o'r clefyd ar ar 4 Chwefror.
Dyma i chi nifer o Gymry amlwg gafodd driniaeth lwyddiannus ar 么l cael clywed bod ganddyn nhw ganser:
Mike Peters, lleisydd The Alarm
Mae'r canwr o Brestatyn wedi goroesi canser ddwywaith. Clywodd bod ganddo lewcemia n么l yn 1995 ac ar 么l brwydro yn llwyddiannus yn erbyn yr afiechyd aeth yn 么l i deithio llwyfannau'r byd a pharhau i ganu. Ond ddeng mlynedd yn ddiweddarach fe gafodd ei lorio unwaith yn rhagor gan y lewcemia.
Bron i ddegawd ers hynny, mae Mike wedi trechu'r salwch ac yn dal i ganu efo The Alarm. Mae o hefyd wedi sefydlu elusen i godi ymwybyddiaeth o ganserau'r gwaed. Wrth ddechrau ymgyrch newydd i godi arian y llynedd, dywedodd Mike:
"Rydw i eisiau rhoi rhywbeth n么l oherwydd y gofal arbennig rydw i a fy nheulu wedi ei gael gan feddygon a nyrsys yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru.
"Mae'r ystadegau yn dangos bod gan un o bob tri pherson ganser ar hyn o bryd ac mae 'na ddarogan y gallai godi i un ymhob dau yn y blynyddoedd nesaf. Mae'n bwysig i ni ddiogelu y dyfodol i'n plant a'n cymunedau."
Glyn Davies, AS Maldwyn
Roedd Glyn Davies yn Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru pan gafodd driniaeth yn 2002 am ganser y coluddyn.
Ar 么l iddo wella dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol:
"Rwy'n awyddus iawn i ddweud wrth bobl, os ydych chi wedi cael salwch difrifol, dyw'r ffordd ddim ar ben. Mae hi'n hawdd rhoi'r gorau i frwydro ar 么l cael diagnosis o ganser, ond mi allwch chi gael adferiad iechyd llawn."
Gwenda Owen, cantores
Daeth y gantores Gwenda Owen yn llais cyfarwydd i gynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru ar 么l ennill cystadleuaeth C芒n i Gymru yn 1995 gyda 'C芒n i'r Ynys Werdd'. Ond ddaeth trobwynt yn 1999 pan gafodd hi ganser y fron. Mae Gwenda, o Gwm Gwendraeth, yn ddiolchgar iawn i'r gofal gafodd hi yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli:
"Rwy'n gwybod fy mod i wedi cael y drin'eth ore oedd ar gael a dwi'n falch bod yr uned yn mynd o nerth i nerth."
John Hartson
Ym mis Gorffennaf 2009 cafodd y p锚l-droediwr John Hartson driniaeth gemotherapi ar 么l i feddygon ddarganfod bod canser y ceilliau wedi ymledu i'w ymennydd a'i ysgyfaint.
Mae cyn-ymosodwr Cymru bellach wedi gwella ac yn sylwebydd uchel ei barch ar raglenni p锚l-droed S4C a'r 大象传媒.
Yn fuan ar 么l gwella dywedodd: "Rydw i wedi bod yn lwcus, roeddwn i'n ff么l. Roedd gen i lwmp ar un o fy ngheilliau am bedair blynedd a wnes i ddim amdano fe."
Mae e nawr wedi sefydlu elusen yn y gobaith y gallai helpu dynion ifanc i osgoi gwneud yr un camgymeriadau.
Heulwen Haf
Clywodd yr actores a'r cyflwynydd Heulwen Haf bod ganddi hi ganser y fron ym mis Ebrill 2008. Penderfynodd Heulwen rannu ei phrofiadau trwy wneud rhaglen ddogfen 'Blodyn Haul: Stori Heulwen Haf' ar gyfer S4C. Ar 么l curo'r clefyd mi wnaeth hi raglen arall yn s么n am y broses o wella. Wrth drafod 'Bron yn Berffaith' dywedodd Heulwen:
"Dach chi'n bell o fod yn iach ar 么l canser. Mi nes i ddirywio a dweud y gwir gan bod y corff wedi bod trwy gymaint. Roeddwn i eisiau i'r rhaglen ddangos y realiti, ei bod hi'n daith hir tuag at wellhad llwyr."
Terry Jones, actor a digrifwr
Datgelodd yr actor a'r digrifwr o Fae Colwyn bod canser y coluddyn arno yn 2007. Ar 么l gwella dywedodd un o aelodau gwreiddiol 'Monty Python':
"Rydw i'n teimlo'n hynod lwcus bod y salwch wedi ei ddarganfod mor fuan. Rydw i'n annog pob dyn dros 50 oed i fynd am golonosgopi. Byddai hyn yn arbed bywydau. Mae canser y coluddyn mor gyffredin a does dim rhaid i chi gael symptomau o angenrhaid, dydych chi ddim yn teimlo'n wael."
Ers hynny mae Terry Jones wedi cael adferiad iechyd a'r llynedd fe ddychwelodd e i'r llwyfan ar gyfer aduniad t卯m 'Monty Python'.
Matthew Rees
Cyn-gapten Cymru, Matthew Rees ydi'r chwaraewr rygbi sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau yn safle'r bachwr. Ond ym mis Tachwedd 2013 daeth ei yrfa i stop a datgelodd y g诺r o Donypandy ei fod yn cael triniaeth am ganser y ceilliau.
Erbyn hyn mae o yn 么l yn y rheng flaen i'r Gleision. Wrth edrych ymlaen at y tymor dywedodd y blaenwr am y canser:
"Hwn oedd y peth anoddaf wnes i orfod delio gydag e yn fy mywyd. Fe ges i ambell i ddiwrnod tywyll ond roedd e'n her ac fe ddes i drwyddi. Yn sicr rwy'n edrych yn wahanol ar fywyd nawr."
Profiad Tudur Owen
Datgelodd y digrifwr a'r darlledwr ei fod wedi cael triniaeth am ganser y prostad ar ei raglen ar 大象传媒 Radio Cymru, Ddydd Sadwrn, 31 Ionawr:
"Mi ges i wybod ym mis Hydref y llynedd - ar 么l misoedd o boeni - fod gen i ganser y prostad. Ti ddim yn disgwyl i'r math yma o beth ddigwydd i chdi.
"Bellach dwi wedi cael triniaeth, a dyna pam fues i ffwrdd am ychydig wythnosau.
"Mae'n bwysig bod y neges yn mynd allan - bois, os oes gynnoch chi unrhyw amheuaeth ewch ar wefan ac mae'r wybodaeth i gyd yn fanna."