大象传媒

Ateb y Galw: Mari Lovgreen

  • Cyhoeddwyd
Mari

Yr wythnos yma y cyflwynydd Mari Lovgreen sy'n Ateb y Galw, wedi iddi gael ei henwebu gan Rhian Blythe.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cael fy mhen yn sownd mewn st么l fechan.

Pwy oeddetti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Leonardo DiCaprio.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cyfweld Leonardo DiCaprio ar y carped coch, rhoi llythyr 14 tudalen iddo ro'n i 'di sgwennu pan yn 13 oed, a wedyn crio.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'r hogan 'na o S4C yn 么l efo llythyr arall i ti"

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi newydd gael babi naw wythnos yn 么l, felly dwi'n crio reit aml ar hyn o bryd!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, ond mae nhw'n gwbl gyfrinachol.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Barcelona.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Waw, am gwestiwn! Parti dyweddio fy ffrindiau agos Hyw ac Elsbeth yn uchel iawn ar y rhestr - tywydd braf, cwmni da, bbq, karaoke, gig yn Clwb Ifor ac ymlaen i dafarn neu ddwy i orffen petha'. Dwi'n hawdd fy mhlesio 'chi.

Oes genti dat诺?

Oes ar waelod fy nghefn. Rhyw sgwigl du ydi o - trio bod yn rebal pan o'n i'n 16 oed.

Beth yw dy hoff lyfr?

Cysgod y Cryman. Dyna pam nes i briodi ffarmwr o'r enw Edward Vaughan a symud i fyw i Sir Drefaldwyn.

Ffynhonnell y llun, Theatr Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mari a Leonardo 'ta golygfa o gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o Cysgod y Cryman?

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Ar y funud - leggins. Gwaetha'r modd.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

'Avatar'. Bys ar y pyls fama.

Dy hoff albwm?

Casau'r cwestiwn yma achos dwi'n caru cerddoriaeth. Dwy albwm ddylanwadodd fwya' arna fi yn ifanc oedd Lauren Hill - 'Miseducation of...' a Big Leaves - 'Pwy sy'n Galw?'.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Cwrs cyntaf. Fydda i'n ordro ail gwrs cyntaf yn lle pwdin weithia'. 'Di hynna'n ddrwg?

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Dibynnu ar y person dydi? Dim byd gwell na sgwrs iawn efo'r person iawn; ond ma tecstio'n gallu bod yn handi... Pam does 'na'm opsiwn wyneb yn wyneb? Wfft i dechnoleg (medda'r hogan sy'n addicted i'w iPhone).

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Russell Brand neu Hywel Gwynfryn... amhosib dewis.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae un yn gallu siarad fel melin bupur ac mae merched Cymru wedi gwirioni arno fo. A'r llall ydi Russell Brand!

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Lisa Angharad