Anscirwydd am wasanaeth cynghori sy'n 'achub bywydau'

Fe all gwasanaeth cynghori sy'n "achub bywydau" yn ne ddwyrain Cymru ddod i ben oherwydd toriadau, yn 么l y trefnwyr.

T卯m Alcohol a Chyffuriau Caerdydd yw'r unig awdurdod proffesiynol o'i fath yn y ddinas a Bro Morgannwg, ac mae'n costio tua 拢200,000 y flwyddyn.

Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu yn y 1980au, ac mae un cyn reolwr yn dweud bod "dyletswydd" ar y cyngor i'w achub.

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod nhw dan bwysau ariannol "digynsail" a bod diffyg ariannol o 拢48.3m.

'Dyletswydd y cyngor'

Ddydd Mercher, bydd cefnogwyr yn cyflwyno deiseb sydd wedi ei arwyddo gan dros 5,000 o bobl yn galw am achub y gwasanaeth.

Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd wneud penderfyniad terfynol erbyn diwedd y mis.

Dywedodd cyn-reolwr gyda'r gwasanaeth, Mike McCandless, bod 200 o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth ar hyn o bryd.

"Does dim amheuaeth am ei effeithiolrwydd," meddai.

"Ni fydd unrhyw wasanaeth arall ar gael iddyn nhw [y rhai sy'n ei ddefnyddio] felly byddai cwestiynau am ddyletswydd y cyngor i ofalu amdanyn nhw.

"Mae hen yn wasanaeth sy'n achub bywydau."

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud bod angen arbed 拢48.3m dros y flwyddyn nesaf

Dywedodd y Cynghorydd Graham Hinchey: "Ni fyddai'r cynllun i arbed arian drwy dynnu'r gwasanaeth cynghori o Dim Alcohol a Chyffuriau Caerdydd yn rhoi diwedd ar fynediad i gynghori, oherwydd bydd gwasanaethau cynghori eraill yn parhau."