大象传媒

Ehangu Rheilffordd Llyn Tegid i mewn i'r Bala?

  • Cyhoeddwyd
Tren Rheilffordd Llyn Tegid
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl y bydd yr estyniad i'r rheilffordd, fydd yn dri-chwarter milltir o hyd, yn costio tua 拢3m

Mae cyfarfod ddydd Mercher i drafod cynllun i ehangu Rheilffordd Llyn Tegid i mewn i dref y Bala gyda'r cyhoedd.

Dywedodd rheolwr Rheilffordd Llyn Tegid, David Jones, ei fod yn ffyddiog y bydd y cynllun yn cael ei wireddu.

"Ar y funud mae'r rheilffordd yn cychwyn o bentref Llanuwchllyn, rhedeg gerbron Llyn Tegid hefo golygfeydd hardd i lawr y llyn ac am y mynyddoedd, ac mae hi yn gorffen y tu allan i'r Bala, felly dydi hi ddim yn cyrraedd y dref ei hun," meddai.

"Cynlluniau sydd gennym ni, cynlluniau sydd wedi bod ar y gweill ers i'r rheilffordd gychwyn 40 mlynedd yn 么l, ond y tro hyn maen nhw'n mynd i gael eu gwireddu."

Mae disgwyl y bydd yr estyniad, fydd yn dri-chwarter milltir o hyd, yn costio tua 拢3m.

Pe bai'r cynllun yn cael ei wireddu, byddai'r rheilffordd yn rhedeg mor agos 芒 phosib i ganol y Bala, i Stryd Aran, mewn ymgais i roi hwb i economi'r dref.

Mae cyfle i'r cyhoedd weld y cynlluniau a lleisio eu barn arnynt yn y cyfarfod cyhoeddus rhwng 16:00 a 18:00 yng Nghanolfan Henblas y dref ddydd Mercher.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd rheolwr y rheilffordd, David Jones, yn croesawu'r cyhoedd i drafod y cynlluniau ddydd Mercher