大象传媒

Y gymuned Iddewig yn crebachu?

  • Cyhoeddwyd
synagog Caerdydd

Mae'n grefydd sydd wedi bod yn amlwg yng Nghymru ers canrifoedd, ond mae 'na bryder fod y gymuned Iddewig yn crebachu yn y wlad.

Nawr, mae synagogau Caerdydd yn ceisio denu rhagor o bobl Iddewig i'r brifddinas, wrth i Gasnewydd ddweud mai dim ond chwech sydd ar 么l yn y gymuned.

Daw hyn wedi i Iddewon ledled Ewrop ddweud eu bod nhw'n poeni ar 么l ymosodiadau ym Mharis a Chopenhagen.

Mae'r ofn hwnnw yn bresennol yng Nghymru, hefyd, yn 么l rhai.

Fe ddywedodd Stanley Soffa, cadeirydd y Cyngor Cynrychioli Iddewon yn ne Cymru: "Mae 'na ofn am y person wnaiff wneud rhywbeth byrbwyll - sylw di-hid ar y stryd, fandaleiddio mynwent, peintio rhywbeth ar synagog - neu wrth gwrs, gallai fod yn llawer, llawer gwaeth na hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Stanley Soffa yw cadeirydd y Cyngor Cynrychioli Iddewon yn ne Cymru

Yn 么l ffigyrau gafodd eu cyhoeddi fis diwethaf, mae nifer y digwyddiadau gwrth-Semitaidd ym Mhrydain ar eu huchaf erioed.

Mae elusen sy'n gyfrifol am ddigoelwch Iddewon yn y gymuned yn dweud fod 1,168 o ddigwyddiadau gwrth-Semitaidd yn 2014, o gymharu 芒 535 yn 2013.

1840

Fe gafodd y gymuned Iddewig ei chydnabod am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yn 1840, pan roddodd Marcwis Bute ddarn o dir iddyn nhw er mwyn sefydlu mynwent.

Er i'r gymuned ffynnu am gyfnod, dim ond 2,064 o Iddewon sy'n byw yng Nghymru erbyn hyn, yn 么l y cyfrifiad diweddaraf.

Meddai Mr Soffa: "Erstalwm, roedd gan bob Cwm eu cnewyllyn o Iddewon. Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe ydi'r unig rai sy'n weddill.

"Pan dw i'n edrych i'r dyfodol, dw i'n gweld rhagor o grebachu. Fe fydd Casnewydd ac Abertawe yn dod i ben - fel ddigwyddodd yn Merthyr Tudful ychydig flynyddoedd yn 么l."

Atgofion plentyndod

Tad y cyflwynydd Lucy Owen oedd y bachgen cyntaf i gael seremoni Bar Mitzvah yn Synagog Ddiwygiedig Caerdydd.

Mae 'na lythyrau gan ei thaid, Myer Cohen at Leslie Corne - un o arweinwyr y gymuned - yn cadarnhau y byddai 133 o bobl yn bresennol yn y dathliad ym mis Mawrth 1949, ac y byddai parti yng ngwesty'r Angel yn y brifddinas.

Mae Lucy'n cofio ymweld 芒'r synagog gyda'i thaid pan oedd hi'n blentyn - ac yn dweud ei bod hi'n anodd dychwelyd yno 30 mlynedd yn ddiweddarach.

"Roedd o'n rhan allweddol o'r criw sefydlodd y synagog wedi'r Ail Ryfel Byd," meddai.

"Fe wnaeth o ddisgyn mewn cariad a phriodi Cristion, felly allai o didm parhau i fod yn Iddew Uniongred. Roedd 'na rai eraill yn yr un sefyllfa, ac felly dyma sefydlu Synagog Ddiwygiedig Caerdydd.

"Mae dod yn 么l yma 30 mlynedd yn ddiweddarach yn anodd i fi. Mae 'nhaid a 'nhad wedi mawr, ac fe ddaeth yr atgofion ohonyn nhw a fy amser yma yn y synagog gyda nhw yn 么l fel ton.

"Mae gweld y gymuned 'ma oedd mor bwysig i 'nheulu i yn teimlo'n fregus - mae hynny'n anodd.

"Mae 'na euogrwydd, hefyd. Fe adawodd fy rhieni i fi ddewis fy nghrefydd. Er i mi ymweld 芒'r synagog, wnes i erioed arddel fy mod i'n Iddew.

"Mae'n rhaid i mi holi - ai straeon fel fy un i sy'n rhannol gyfrifol am y gymuned yn crebachu yng Nghymru?"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llythyr am Bar Mitzvah tad Lucy Owen

Caerdydd sydd gan y gymuned Iddewig fwyaf yng Nghymru. Er hyn, mae niferoedd wedi gostwng o 5,500 yn y 1960au i ychydig llai na 500 nawr.

Mae Mr Soffa yn dweud fod y gymuned yn gobeithio cadw pobl rhag gadael, a denu rhagor o bobl i'r brifddinas.

Yn 么l yr Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor - sy'n arbenigo yn yr Iddewon Alltud yn Ewrop - mae'n heriol i gymunedau bychain gadw eu haelodau.

"Dwi'n credu mai'r brif broblem yw nad oes 'na bobl ifanc yn dod yn lle'r to h欧n sy'n marw. Does 'na ddim digon o gyfleoedd economig i'w denu nhw.

"Dyw'r ffaith eu bod nhw wedi eu magu yno ddim yn ddigon o reswm i'w cadw - yn enwedig os ydyn nhw am i'w plant briodi o fewn y ffydd, neu fynd i ysgol Iddewig.

"Mae'n rhaid i'r bobl yma fynd i gymuned fwy fel Llundain neu Faenceinion - lle mae 'na strwythur yn ei le."