Ateb y Galw: Mari Grug
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma y gyflwynwraig Mari Grug sy'n Ateb y Galw, wedi iddi gael ei hewnebu gan Trystan Ellis-Morris.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mynd i weld fy chwaer Elin yn perfformio yng ngwasanaeth Nadolig y Capel a chael fy nal n么l gan fy nhad am nad oeddwn yn cael ymuno gyda hi yn y pulpud.
Yn diwedd dwi'n credu fe wnes i lwyddo ac mi roedd 'na angel ychwanegol yn stori'r geni.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Roedd dau ddyn yn rhannu stafell wely gyda fi a fy chwaer Lisa. Sean Maguire oedd yn chwarae rhan Tegs yn y gyfres 'Grange Hill' a Dieter Brummer odd yn chwarae rhan Shane yn 'Home and Away'. Posteri ym mhobman.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gofyn i weinyddes mewn bwyty pryd odd hi'n disgwyl babi. Mi oedd hi wedi geni ers 10 wythnos!!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dydd Sadwrn diwethaf, o'n i ym mhriodas ffrindiau.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Chwarae gyda fy ngwallt bob munud o'r dydd. Pan o'n i'n cyflwyno rhaglen fyw unwaith rhai eiliadau cyn i fi fynd yn fyw, ges i'r cyfarwyddwr yn gweiddi yn fy nglust "stopia chwarae gyda dy blydi gwallt". Dwi dal i wneud, credu bod e rhyw fath o nervous twitch.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Efrog Newydd
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Sesiwn Fawr Dolgellau 2005
Oes gen ti dat诺?
Nagoes. Erioed wedi apelio ac fe wnes i weld ymateb fy rhieni pan ddaeth fy chwaer adre o'r brifysgol gydag un mawr ar waelod ei chefn.
Beth yw dy hoff lyfr?
Wrth fy modd gyda llyfrau Jodie Picoult - 'Songs of the Humpback Whale' a 'My Sister's Keeper'. Ma' 'Philomena' gan Martin Sixsmith wedi gadael tipyn o argraff arna i a nes i wir fwynhau 'Blasu' gan Manon Steffan Ros.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Fy siaced ledr ddu ac anaml iawn fydda i heb sgarff - cas谩u cael gwddf oer.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'Theory of Everything' - gwyyyyyych!
Dy hoff albwm?
'A kind of Magic' gan Queen.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Cwrs cyntaf bob tro. Weithiau yn archebu 2 gwrs cyntaf gan bod well dewisiadau na'r prif gwrs.
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Dyddiau 'ma gydag amser i glebran yn brin, ma' txt yn handi iawn ond pan fo amser yn caniat谩u sdim byd yn well na gwd clonc ar y ff么n!!
Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Steffan Ifan James, fy mab 16 mis oed. Byddai'n ddiddorol iawn i weld beth yn union sy'n mynd ymlaen yn ei fyd bach e'.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesa'?
Sian Thomas