Aduniad ymgyrchwyr a glowyr
- Cyhoeddwyd
Mae dau gr诺p ysbrydolodd y ffilm Pride, wedi dod at ei gilydd am y tro cyntaf mewn bron i 30 mlynedd.
Daeth aelodau o'r Gr诺p Lesbiaid a Hoywon sy'n Cefnogi'r Glowyr, sydd wedi'i ailffurfio'n ddiweddar, yn 么l i Gwm Dulais ar gyfer aduniad gyda Gr诺p Cefnogi Glowyr Nedd, Dulais a Chwm Tawe.
Daeth cannoedd o bobl i'r digwyddiad yn Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn, Cwm Dulais, gan godi 拢4,000 i Ymddiriedolaeth Mark Ashton - elusen HIV gafodd ei sefydlu er cof am Mark Ashton - yn o'r prif gymeriadau sy'n ymddangos yn y ffilm, a fu farw yn 1987.
Dywedodd brawd Mark, Lee Aston, oedd wedi teithio o Burnley yn Sir Gaerhirfryn, bod ei deulu'n teimlo balchder mawr: "Mae'r ffaith bod dau begwn cymdeithasol wedi dod at ei gilydd er mwyn cefnogi ei gilydd yn dangos dynoliaeth ar ei orau."
Yn 么l ysgrifennydd gr诺p cefnogi'r glowyr, Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe Sian James, oedd hefyd yn cael ei phortreadu yn y ffilm, roedd 'Pride' yn eu hatgoffa o gyfnod o undod, gan ysbrydoli'r ddau gr诺p i ailffurfio.
"30 mlynedd yn 么l, mi wnaethon ni gynnal digwyddiad wrth i'r streic ddod i ben, ond roedd hwnnw'n achlysur trist. Felly'r syniad tu 么l i'r aduniad oedd y byddan ni'n diolch i bawb oedd wedi ein cefnogi drwy gydol y streic.
"Roedden ni eisiau atgoffa ein hunain y gallen ni wneud y math yma o beth, ein bod ni'n gallu dod 芒'r gymuned at ei gilydd, ac mae'r digwyddiad wedi bod yn llwyddiant."
Dywedodd ysgrifennydd y Gr诺p Lesbiaid a Hoywon sy'n Cefnogi'r Glowyr, Mike Jackson, eu bod wedi eu synnu gyda'r diddordeb mae pobl wedi'i ddangos yn y stori.
"Mae nifer fawr o bobl wedi cysylltu 芒 ni, yn enwedig pobl ifanc, gan ddweud eu bod wedi eu hysbrydoli gan y ffilm."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2015