Sgiliau sylfaenol ar ei isaf yn y cymoedd
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad gan y 大象传媒 wedi darganfod mai plant ysgol yng nghymoedd y de sydd 芒'r lefelau darllen a rhifedd isaf yng Nghymru.
Disgyblion o ysgolion ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen oedd 芒'r canlyniadau isaf ym mhrofion darllen Saesneg a rhifedd y llynedd.
Dyma'r ail flwyddyn mae plant rhwng saith a 14 oed wedi cael eu profi.
Mae arbenigwyr addysg yn dweud nad yw'r bwlch mewn sgiliau rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf amddifad yn lleihau.
Yn 么l yr Arolwg Cenedlaethol o Sgiliau Oedolion yng Nghymru yn 2010, mae gan 900,000 o bobl yng Nghymru - tua hanner oedolion y wlad - sgiliau mathemateg gyfwerth 芒 phlant ysgol gynradd rhwng naw ac 11 oed.
'Pryder yn y cymoedd'
Dywedodd yr ymgynghorydd addysg, yr Athro David Egan: "Mae bwlch enfawr rhwng y rhannau o Gymru ble mae amddifadedd ar lefel uchel a'r rhannau o'r wlad ble nad dyma'r achos.
"Mae o bryder penodol mewn rhai rhannau o Gymru - dim y cymoedd yn unig. Ond mae'n bendant yn bryder yn y cymoedd."
Yn 么l y ffigyrau diweddaraf does gan dros 15% o oedolion ym Mlaenau Gwent unrhyw gymwysterau o gwbl, sydd bron i ddwywaith cyfartaledd gweddill y DU.
Mae Nick Bush, 23 oed, o Dredegar Newydd, yn cymryd rhan mewn cyrsiau addysg i oedolion i geisio gwneud i fyny am ei ddiffyg sgiliau sylfaenol.
Dywedodd ei fod wedi cael trafferth 芒 mathemateg trwy gydol ei amser yn yr ysgol.
Mae mathemateg Nick mor s芒l ei fod yn dibynnu ar bobl eraill i'w helpu gyda thasgau syml fel cyllido neu ddal tr锚n.
"Rwy'n gofyn i bobl 'Pryd mae'r tr锚n nesaf?' Rwy'n trio darllen yr amserlenni yn ogystal, ac mae'n ddryslyd i mi," meddai.
"Mae wir yn ofnadwy, gan wybod na fedra i ei wneud o fy hun."
Week In Week Out: Can't Read, Can't Do My Sums, 大象传媒 One Wales, nos Fawrth, 22:40